Ar-lein, Mae'n arbed amser
Y Cyngor am gael barn y cyhoedd ar gais Merthyr Tudful am Statws Dinesig.
- Categorïau : Press Release , Council
- 10 Medi 2021
Mewn cyfarfod o’r Cyngor ddydd Mercher 8 Medi 2021, rhannwyd cyflwyniad gyda’r holl aelodau etholedig am gais arfaethedig i gael Statws Dinesig i Ferthyr Tudful.
Roedd pawb yn unfrydol yn cefnogi’r cais, a gofynnodd y Cyngor am adroddiad pellach i’w gyflwyno ger bron, ddiwedd y mis, gydag adborth oddi wrth ein preswylwyr a’n busnesau am eu barn.
Gyda’n bod ni wedi rhannu peth gwybodaeth am y cais yn gynharach yr wythnos hon, rydym wedi cael sylwadau eisoes oddi wrth breswylwyr. Mae rhai pobl wedi cwestiynu a ydym ni’n ddigon mawr i fod yn ddinas - yr ateb yw, ydyn. Mae rhai wedi gofyn a oes modd i ni fod yn ddinas heb eglwys gadeiriol. Eto, yr ateb i hyn yw - oes.
Gwelodd Ferthyr Tudful werth miliynau o bunnoedd o adfywio yn y blynyddoedd diweddar. Mae cyfnewidfa fysiau newydd ffantastig gennym, rhai o’r golygfeydd a’r atyniadau awyr agored gorau yn y DU, cyfoeth o siopau a darparwyr llety, a nifer o fwytai a bariau, sydd ar gynnydd. Mae gennym hefyd dreftadaeth unigryw a hanes chwaraeon i ymfalchïo ynddo. Felly pam na ddylem ni fod yn ddinas?
Mae problemau’n parhau gan Ferthyr Tudful, fel pob tref a dinas yng Nghymru a’r DU. Rydym o’r farn y gallai gwneud cais am Statws Dinesig fod yn bwynt canolog i ddod ȃ’n cymuned, partneriaid a rhanddeiliaid ynghyd i ddatrys y problemau yn ein tref a gwneud Merthyr Tudful yn lle gwell ar gyfer ein plant.
Y manteision
Gall dyfod yn ddinas:
- helpu i ddenu buddsoddiad mewnol
- denu busnesau newydd a gweithwyr cyflogedig ȃ sgiliau
- hybu datblygiad economaidd a chymdeithasol
Dangos Merthyr Tudful fel y lle gwych y mae trwy:
- creu delwedd gadarnhaol, ddeniadol o Ferthyr Tudful
- helpu’r canfyddiad o Ferthyr Tudful i fod yr un peth ȃ dinasoedd eraill yn y DU o ran statws economaidd a chymdeithasol
- gwella safle Merthyr Tudful fel ‘man canolog’ rhwng dinasoedd Abertawe a Gorllewin Canolbarth Lloegr
- cryfhau ein proffil twristaidd a’n hymwybyddiaeth o gyrchfan
Byddai’r holl fanteision hyn yn cynnig gwell cyfleoedd i genedlaethau’r dyfodol.
Eich safbwyntiau
Rydym am wybod beth yw eich barn chi! Eich tref chi yw hon, ac mae eich adborth yn allweddol o ran a fyddwn yn cyflwyno’r cais hwn ar 8 Rhagfyr.
Rydym yn cynnal arolwg barn ar y cyfryngau cymdeithasol ar hyn o bryd ac mae arolwg ar-lein ar gael hefyd (gweler isod).
Treuliwch funud o’ch amser i ddweud eich dweud!
Byddwn yn rhannu canlyniadau eich adborth erbyn diwedd y mis, cyn bod penderfyniad yn cael ei wneud ynghylch a ydym am fynd ymlaen gyda’r cais.
Ceir 10 tref yn y DU yn cystadlu am Statws Dinesig; Merthyr Tudful a Wrecsam yw’r unig ddwy yng Nghymru. Rydym yn cydnabod fod gennym, fel pob tref a dinas arall – heriau sy’n rhaid i ni fynd i’r afael ȃ nhw, ond ni ddylai hyn ein stopio rhag cael dyheadau.
Un waith bob 10 mlynedd yn unig y daw’r cyfle hwn i’r fei – beth am osod Merthyr Tudful ar y map am y rhesymau cywir i gyd!