Ar-lein, Mae'n arbed amser
Mae'r Cyngor yn cefnogi ymgyrch gwrth-fwlio ledled Merthyr Tudful
- Categorïau : Education , Schools
- 18 Hyd 2021
Mae Cyngor Bwrdeistref y Sir yn rhoi cefnogaeth i ddatblygu ymgyrch gwrth-fwlio ynghyd â phlant a phobl ifanc ledled Merthyr Tudful.
Ar ôl cael strategaeth gwrth-fwlio ar gyfer ysgolion ar waith ers 2009, mae Cabinet y Cyngor wedi ailddatgan ei ymrwymiad i raglen 'Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol (PBS)’ ledled y fwrdeistref lle mae gan bob ysgol staff sydd wedi'u hyfforddi mewn PBS a systemau gloywi blynyddol ar waith.
Clywodd y Cabinet hefyd yn ddiweddar fod saith ysgol leol yn cymryd rhan ym mhrosiect Troseddau casineb mewn ysgolion cymdeithas Llywodraeth leol Cymru (WLGA), a ariennir trwy gronfa drosglwyddo Ewropeaidd Llywodraeth Cymru.
Mae'r prosiect yn darparu gweithdai i ddisgyblion a ddarperir gan yr elusen addysg gwrth-hiliaeth ‘Show Racism the Red Card’ a hyfforddiant i staff gan yr elusen addysg SAPERE Philosophy for Children. Bu’n rhaid gohirio’r dyddiad cyflawni oherwydd COVID 19, ond bydd y prosiect nawr yn cael ei gyflawni y flwyddyn galendr hon.
Yr ysgolion cynradd dan sylw yw Caedraw, Parc Cyfarthfa, Heolgerrig, Twynyrodyn, Coed y Dderwen a'r Uned Cyfeirio Disgyblion, ynghyd ag Ysgol Uwchradd Catholig Esgob Hedley.
Yn y cyfnod yn arwain at Wythnos Gwrth-fwlio genedlaethol eleni rhwng 15 a 19 Tachwedd, bydd disgyblion Ysgol Uwchradd Catholig Esgob Hedley yn gwisgo bandiau arddyrnau gyda’r slogan ‘One Kind Word’, sef thema’r wythnos.
Ers i'r Cyngor Bwrdeistref Sirol gyhoeddi ei strategaeth gwrth-fwlio gyntaf yn 2011/12, mae ymchwil wedi canfod:
- Bu cynnydd yn nifer y digwyddiadau yr adroddwyd amdanynt ar gyfer bwlio corfforol a rhyw
- Mae'n ymddangos bod digwyddiadau seiberfwlio wedi gostwng yn sylweddol
- Bu cynnydd mawr mewn digwyddiadau yn 2017/18 ond ers hynny, mae'r rhain wedi lleihau
- Mae nifer y digwyddiadau hiliol yn parhau i fod yn isel ac wedi gostwng ers 2011/12
Dywedodd adroddiad y Cabinet y dylid nodi y byddai digwyddiadau a adroddwyd yn ystod y ddwy flynedd academaidd ddiwethaf wedi cael eu heffeithio gan y pandemig, a phlant a phobl ifanc ddim yn yr ysgol.
“Ein nod yw cefnogi ysgolion i ddatblygu amgylchedd lle mae plant yn teimlo'n hapus ac yn ddiogel, yn parchu amrywiaeth, ac yn annog trafodaeth iach,” meddai Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet dros Ddysgu, y Cynghorydd Lisa Mytton.
“Bydd hyn yn sicrhau bod disgyblion yn fwy parod i ddysgu. Rydym hefyd yn anelu at riportio niferoedd llai o ddigwyddiadau bwlio ar draws pob ysgol, ac i bob ysgol gael y nifer briodol o Gynorthwywyr Cymorth Llythrennedd Emosiynol (ELSA) i gefnogi pobl ifanc,” ychwanegodd.
“Rydym hefyd yn anelu at riportio llai o ddigwyddiadau bwlio ar drws yr ysgolion I gyd, ond hefyd I bob ysgol gael mynediad at ystod o strategaethau I gefnogi pobl ifanc” ychwangeodd.
“Mae'r Cyngor wedi cynhyrchu canllawiau gwrth-fwlio statudol i ddarparu cyngor i alluogi gwerthoedd parch, goddefgarwch a charedigrwydd i gael eu hymgorffori yn ein hysgolion ac ar draws y gymuned ehangach. Dim ond trwy weithio gyda'n gilydd y gallwn gyflawni hyn a gwneud gwahaniaeth go iawn.”
Edrychwch ar y ddogfen strategaeth ar wefan y Cyngor yma: https://bit.ly/3aALTfb