Ar-lein, Mae'n arbed amser

Cyngor i orfodi Deddf Rheoli Ceffylau (Cymru) 2014 drwy atafaelu ceffylau strae

  • Categorïau : Press Release
  • 29 Medi 2023
horses PANT

Dros y misoedd diwethaf mae’r Awdurdod wedi derbyn nifer cynyddol o gwynion am geffylau yn crwydro ar y briffordd, ardaloedd preswyl, ysgolion a llwybrau.

Mae ceffylau strae yn risg i’r cyhoedd yn enwedig ger ysgolion a chaeau chwarae ac hefyd yn achosi risg i les yr anifeiliaid.

Rydym yn derbyn bod gatiau weithiau yn cael eu gadael ar agor a bod y ceffylau yn dianc, ond blaenoriaeth yr Awdurdod yw diogelwch y cyhoedd.

Felly, o hyn ymlaen, mae’n fwriad gan yr Awdurdod i atafaelu unrhyw geffylau strae gan ddefnyddio ei grym o dan Deddf Rheoli Ceffylau (Cymru) 2014. Pan fydd y ceffylau wedi eu hatafaelu, bydd gan y perchennog gyfnod i hawlio eu hanifeiliaid ond bydd angen dangos tystiolaeth perchnogaeth megis passport ceffylau a thalu pob tâl dyledus oherwydd bod y Cyngor wedi atafaelu’r ceffylau.

Dywedodd y Cynghorydd Declan Sammon, Cynghorydd Ward dros Dowlais a Phant: “Mae Cymuned Dowlais a Phant wedi bod yn destun nifer o ddigwyddiadau o geffylau strae, ac rwyf wedi gweithio’n agos gyda swyddogion y Cyngor i ddatrys y materion hyn.

“Mae'n ddyletswydd ar berchnogion ceffylau i gymryd cyfrifoldeb am eu hanifeiliaid a sicrhau eu bod yn cael eu cadw mewn amgylcheddau diogel. Bydd methu â gwneud hynny yn arwain at atafaelu a chostau sylweddol ar gyfer eu dychwelyd.”

Dywedodd y Cynghorydd Michelle Symonds, Aelod Cabinet dros Adfywio, Tai a Diogelu’r Cyhoedd: “Ein blaenoriaeth yw cadw preswylwyr yn ddiogel, felly rydym yn annog pob perchennog ceffylau ymweld a’r tir ble cedwir eu ceffylau er mwyn sicrhau bod y lleoliad yn ddiogel.

Gall aelodau’r cyhoedd riportio digwyddiadau trwy gysylltu gyda’r Awdurdod ar 01685 725000 neu e-bostio customer.care@merthyr.gov.uk

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni