Ar-lein, Mae'n arbed amser

Mae'r Cynghorydd Geraint Thomas wedi rhoi'r gorau i'w rôl fel Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful

  • Categorïau : Press Release
  • 12 Medi 2024
Geraint Thomas

Mae'r Cynghorydd Geraint Thomas wedi penderfynu rhoi'r gorau i'w rôl fel Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn Dilyn Is-etholiad Ward Bedlinog a Threlewis.

Dywedodd y Cynghorydd Geraint Thomas: "Gyda Llafur yn ennill sedd yn yr is-etholiad ddiweddar, yna'r Cynghorwyr Declan Sammon a Paula Layton yn gadael y grŵp Annibynnol, gyda dim ond deuddeg aelod daeth yn amhosib aros yn yr arweinyddiaeth”.

 Aeth y Cynghorydd Thomas yn ei flaen: "Mae wedi bod yn anrhydedd cael gwasanaethu fel Arweinydd y Cyngor. Rwy'n hynod falch o'm cyflawniadau, rhai'r Cabinet, a

rhai’r grŵp annibynnol yn gyffredinol, yn ystod cyfnod heriol i lywodraeth leol. Er nad yw arweinyddiaeth wleidyddol yr awdurdod wedi'i phennu eto, byddaf yn parhau i gynrychioli Ward Cyfarthfa a'r Cyngor cyfan gydag ymrwymiad."

Er mwyn sicrhau trosglwyddiad llyfn, bydd yr Arweinydd yn aros yn ei swydd tan y Cyfarfod Cyngor Llawn nesaf, ddydd Mercher Medi 18fed 2024, lle bydd penderfyniad

ar arweinyddiaeth wleidyddol y Cyngor yn cael ei gwneud.

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni