Ar-lein, Mae'n arbed amser

Y Cyngor Bwrdeistref Sirol yn pleidleisio yn erbyn y cais am statws dinas

  • Categorïau : Press Release
  • 12 Hyd 2021
Merthyr city status bid

Mewn cyfarfod arbennig o’r Cyngor a gynhaliwyd heno (nos Fawrth 12 Hydref) i drafod ei gais am statws dinas, pleidleisiodd y cynghorwyr 21-10 yn erbyn bwrw ymlaen â’r cynnig.

Hysbyswyd yr aelodau yn Adroddiad y Prif Swyddogion fod arolwg tair wythnos a gynhaliwyd ar wefan a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol y Cyngor, wedi arwain at 42.56% (758) yn pleidleisio o blaid a 57.44% (1,023) yn pleidleisio erbyn y cais.

Cyfanswm y pleidleisiau a fwriwyd oedd 1,781. Yn seiliedig ar boblogaeth Merthyr Tudful o 59,100, cymerodd ychydig dros 3% (3.01%) ran yn yr arolwg.

Dywedodd y Cynghorydd Geraint Thomas, Aelod o’r Cabinet ar gyfer Adfywio, Trawsffurfio a Masnacheiddio: “Rwy’n siomedig iawn gyda’r penderfyniad, ond ar yr achlysur hwn, mae’r Cyngor wedi pleidleisio i beidio â chyflwyno cais am statws dinas.

“Rydyn ni wedi ystyried yr holl adborth ac mae’n bwysig nodi’r dystiolaeth fod yna nifer fawr heb benderfynu neu heb ymgysylltu â’r mater. Datgelodd data Facebook, er enghraifft, fod 874 o bobl wedi edrych ar y cynnwys, ond dim ond 181 a aeth ymlaen i fwrw’u pleidlais.”

“Fodd bynnag, mae’r aelodau wedi bod yn gwrando ar adborth y preswylwyr ac yn teimlo nad nawr yw’r amser priodol. Rydyn ni’n ymwybodol fod gennym heriau i fynd i’r afael â nhw, ond mae gennym ddyheadau o hyd i wneud cais arall rywdro yn y dyfodol.”

 

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni