Ar-lein, Mae'n arbed amser

Criw Cymraeg o Ysgolion Cynradd, ledled Merthyr yn cyfansoddi cân Gymraeg

  • Categorïau : Press Release
  • 19 Gor 2024
Angharad Pic

Ar 11 Gorffennaf, daeth criw bach o ysgolion cynradd Merthyr Tudful at ei gilydd i gyfansoddi cân i hybu'r Gymraeg gyda chefnogaeth y 'Welsh Whisper'. Cyfranogodd 8 ysgol gynradd yn y prosiect.

Mae Criw Cymraeg wedi ei sefydlu ym mhob ysgol, ledled Merthyr Tudful i annog y defnydd o'r Gymraeg ac i drefnu gweithgareddau i hybu'r iaith.

Roedd yr holl blant o'r ysgolion amrywiol, yn cynnig syniadau arloesol ar greu geiriau ar gyfer y gân, gyda'r nod o hyrwyddo'r iaith, y diwylliant a’r dreftadaeth. 

Bu’r Criw hefyd yn cymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb gyda'r Welsh Whisper. Manteisiodd llawer ar y cyfle i ofyn cwestiynau am gerddoriaeth, yr iaith a’r diwylliant. 

Yn y prynhawn, ymunodd aelodau ychwanegol o'r Criw Cymraeg o bob ysgol ar gyfer 'perfformiad byw' o'r gân newydd gan fwynhau’r gig yn fawr iawn.

Dywedodd Catrin Owen, Dirprwy Bennaeth Ysgol Gynradd Gymraeg Santes Tudful a drefnodd y digwyddiad; "Cafodd pawb ddiwrnod ardderchog yn dathlu llwyddiant pob 'Criw Cymraeg' ym Merthyr wrth i ni ddod at ein gilydd i gyfansoddi cân gyda'r Welsh Whisperer, perfformio’r gân a mwynhau'r gig. Roedd y cyfle i ddod ynghyd ym Merthyr i ddathlu'r Gymraeg mewn ffordd gyffrous a modern yn amhrisiadwy ac yn rhywbeth yr hoffem ei drefnu yn flynyddol."

Roedd y plant wedi mwynhau eu hunain a chael profiad o ddefnyddio'r iaith mewn amgylchedd cymdeithasol gan ymarfer defnyddio'r iaith â phlant o ysgolion cyfrwng Cymraeg a Saesneg gam fagu hyder yn siarad y Gymraeg. Roedd y prosiect hwn yn caniatáu elfen o drochi i ddiwylliant Cymru a'r gobaith yw cael ei ddatblygu yn y dyfodol drwy gydweithio â phob ysgol ym Merthyr Tudful.

Dywedodd y Cynghorydd Geraint Thomas, Pencampwr y Gymraeg, "Mae'r prosiect hwn yn rhoi cyfle i blant a phobl ifanc Merthyr Tudful i ddefnyddio’r iaith a datblygu eu sgiliau ieithyddol a'u gwybodaeth ddiwylliannol. Mae'n rhoi cyfle iddynt ddefnyddio'r iaith mewn amgylchedd cymdeithasol. Mae hyn yn helpu ac yn cynorthwyo’r Cyngor i parhau i gefnogi Strategaeth Cymraeg 2050, Llywodraeth Cymru a sicrhau twf a ffyniant yr iaith ym Merthyr Tudful."

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni