Ar-lein, Mae'n arbed amser

Bwrdd Iechyd Cwm Taf yn Cyflwyno Porth gwybodaeth Ar-lein i gefnogi pobl o'r Wcráin a’r rhai sydd wedi eu gwahodd

  • Categorïau : Press Release , Corporate
  • 08 Awst 2022
Merthyr master

Dros y misoedd diwethaf, mae croeso twym galon wedi ei estyn at ddinasyddion y Wcráin sydd wedi cyrraedd y Fwrdeistref Sirol.

Mae hyn wedi bod yn bosib oherwydd caredigrwydd pobl Merthyr Tudful, sydd wedi agor eu drysau i gefnogi pobl o’r Wcráin sydd wedi gorfod gadael y gwrthdaro yn eu mamwlad.

Mewn ymgais i wneud pethau mor hawdd â phosib, mae porth gwybodaeth wedi ei greu gan Fwrdd Iechyd Cwm Taf, er mwyn dod â’r wybodaeth y bydd angen arnynt fel cefnogaeth a gwasanaethau. Cliciwch yma i ddarganfod mwy am y porth gwybodaeth: www.CTMUHB.NHS.Wales/UkraineSupport <http://www.CTMUHB.NHS.Wales/UkraineSupport>.

Hyd yn hyn , mae 35 dinesydd o’r Wcráin wedi cyrraedd Merthyr Tudful, ac maent yn derbyn cefnogaeth gwasanaethau lleol er mwyn eu helpu i setlo. Hyd yn hyn, does dim un wedi llwyddo cael swydd, ond mae llawer yn y broses gyfweld. Mae’r Cyngor hefyd wedi bod yn cefnogi gyda llefydd mewn ysgolion, cefnogaeth gyda chyfweliadau a helpu pobl o’r Wcráin gael mynediad at grwpiau cymunedol.

Mae swyddogion y Cyngor wedi bod yno bob cam o’r ffordd wrth eu helpu i bontio i gymunedau Merthyr Tudful. Mae’r asesiadau a gyflawnwyd yn cofnodi cryfderau unigolion a  theuluoedd, diddordebau, dyheadau a chynlluniau at y dyfodol, a hefyd yn cynnwys y camau pellach sydd ei angen i gefnogi'r teulu/ unigolyn ymhellach.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn gweithio mewn partneriaeth gyda Chynghorau cyfagos wrth sicrhau bod pob dinesydd o’r Wcráin yn derbyn mynediad llawn at wasanaethau iechyd pan fo angen arnynt.

Dwedodd y Cynghorydd Julia Jenkins, yr Aelod Cabinet am Wasanaethau Cymdeithasol, “ Fel yr Aelod Cabinet am Wasanaethau Cymdeithasol, rydw i wrth fy modd bod Cyngor Merthyr Tudful wedi gallu cefnogi cymaint o deuluoedd o’r Wcráin. Mae pobl Merthyr Tudful wedi agor eu drysau a’u calonnau i gefnogi’r teuluoedd hyn ar adeg mor anodd iddynt. Rydym yn gweithio gyda chydweithwyr iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a thai er mwyn ymateb i’w hanghenion. Bydd y porth gwybodaeth sydd wedi ei greu gan y Bwrdd Iechyd yn ychwanegiad gwerthfawr i’r gefnogaeth sy’n cael ei gynnig.”

Gall unrhyw un sy’n aros ym Merthyr Tudful dderbyn gwybodaeth ar: https://www.merthyr.gov.uk/resident/crime-safety-and-emergencies/support-for-ukraine/?lang=en-GB&

 

 

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni