Ar-lein, Mae'n arbed amser
Cynllun Datgarboneiddio yn cael ei gymeradwyo gan Gynghorwyr.
- Categorïau : Press Release , Council , Education , Schools
- 04 Gor 2023
Atgyfnerthwyd ymrwymiad y Cyngor i gyflawni ein dyletswydd datblygu cynaliadwy yn ddiweddar wrth i’n Cynllun Datgarboneiddio 2023 – 2030 gael ei fabwysiadu gan y Cyngor Llawn.
Dywedodd y Cynghorydd Michelle Symonds, Aelod Cabinet dros Ddatgarboneiddio: “Fel awdurdod rydym yn gweld lleihau carbon a newid hinsawdd fel meysydd allweddol ar gyfer gweithredu.
“Rydym eisoes yn gweithio tuag at ddod yn sefydliad carbon niwtral erbyn 2030 ac rydym bellach yn y camau cynnar o gyflawni ein Cynllun Datgarboneiddio cyntaf”.
Mae prosiectau allweddol hyd yma wedi cynnwys:
- Amnewid 7,500 o oleuadau stryd gyda goleuadau LED amgen.
- Gosod 1,900 o baneli solar ar draws adeiladau'r Cyngor, gan gynnwys ysgolion.
- Uwchraddio 6,900 o ffitiadau golau i oleuadau LED.
Mae gennym hefyd nifer o brosiectau wedi ei cynllunio neu ar y gweill, gan gynnwys:
- Adnewyddu Ysgol Uwchradd Pen y Dre i safon sero carbon net.
- Prosiect arloesol i ddatblygu rhwydwaith gwifrau preifat, gan weithio ar y cyd â'r GIG i ddefnyddio'r pŵer a gynhyrchir gan y paneli solar yn Ysgol Uwchradd Pen y Dre.
- Ychwanegu mwy o gerbydau trydan at ein fflyd cerbydau a datblygu seilwaith gwefru trydan ymhellach.
- Edrych ar opsiynau ar gyfer cynlluniau gwresogi carbon isel.
Ychwanegodd y Cynghorydd Symonds: “Bydd gweithio tuag at y cynllun hwn yn dod â buddion enfawr i Ferthyr Tudful, gyda’r potensial ar gyfer ynni glanach, gwyrddach a mwy fforddiadwy i’n cymunedau.
“Bydd y gostyngiad mewn allyriadau carbon a gwell ansawdd aer yn dod â manteision wedyn i iechyd a’r amgylchedd ehangach.
“Mae potensial hefyd i leihau tlodi tanwydd, cefnogi ein cymunedau a datblygu’r economi werdd a swyddi gwyrdd i’r ardal.”
I weld y cynllun ewch i’r dudalen datgarboneiddio bwrpasol ar ein gwefan: merthyr.gov.uk/decarbonisation