Ar-lein, Mae'n arbed amser

Cynllun Amrywiaeth Democratiaeth yn Ymgysylltu â Chymunedau Amrywiol cyn etholiadau lleol y flwyddyn nesaf

  • Categorïau : Press Release , Council , Corporate
  • 08 Rhag 2021
Merthyr Tydfil CBC Logo

 

Mae CBSMT yn deall pa mor bwysig yw democratiaeth yn y Fwrdeistref Sirol ac mae Cynllun Amrywiaeth Democratiaeth y Cyngor yn atgoffa cymunedau o’r modd y gallant gyfranogi yn yr etholiadau lleol y flwyddyn nesaf.

Mae Cynghorau yn annog unigolion o grwpiau nad sydd yn cael eu cynrychioli’n llawn i ystyried sefyll fel ymgeiswyr yn etholiadau lleol y flwyddyn nesaf ac yn y dyfodol.

Er gwaethaf peth gwelliant yn ystod y blynyddoedd diwethaf, allan o 22 o arweinwyr cynghorau lleol Cymru, dim ond chwech ohonynt sydd yn fenywod a dim ond 28% sydd yn gynghorwyr.  Mae 11% o gynghorwyr yn anabl a dim ond 1.8% ohonynt sydd yn dod o gefndir Du neu Leiafrif Ethnig. Yn ôl dadansoddiad y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol ar gyfer Cymru yn 2019, gwelwyd cynnydd graddol o 1.6% i 2.9% o’r boblogaeth yn ystod y bum mlynedd yn arwain at 2019 a oedd yn diffinio eu hunain yn lesbiaidd, hoyw, deurywiol neu arall.  

Mae CBSMT yn credu fod datblygiad mewn amrywiaeth a chydraddoldeb yn hollbwysig er mwyn sicrhau cyfleoedd cyfartal. Dywedodd y Cyngor: “Mae pethau wedi gwella yn ystod y blynyddoedd diwethaf, fodd bynnag, mae angen newidiadau er mwyn annog rhagor o ymgeiswyr amrywiol i sefyll i fod yn gynghorwyr a chynrychIoli eu wardiau. Yn ogystal â chynrychioli eu Preswylwyr Ward, gall cynghorwyr ddyfod yn fodelau rôl ar gyfer y sawl nad sydd yn cael eu cynrychioli ac ysbrydoli cenhedlaeth newydd o arweinwyr dinesig.

Mae gan y Cyngor gyfrifoldeb i sicrhau fod yr Awdurdod a’r sawl sydd yn gweithredu swyddogaeth gyhoeddus yn ystyried sut allant gyfrannu’n gadarnhaol at gymdeithas decach drwy ddatblygu cydraddoldeb a pherthnasau da yn eu cysylltiadau beunyddiol â’r gymuned.

Mae Cynllun Amrywiaeth Democratiaeth CBSMT yn ceisio sicrhau unigolion allai deimlo’n ansicr i ddyfod yn gynghorwyr i ailystyried a chofio bod nifer fawr o bethau yn eu lle all eu cynorthwyo i wneud eu swyddogaethau fel cynghorwyr.

Mae’r Cyngor wedi cymeradwyo Datganiad Amrywiaeth sydd yn ymrwymo i gydlynu gweithgareddau er mwyn gwella amrywiaeth mewn democratiaeth llywodraeth leol gan ddarparu ymrywymiad clir a chyhoeddus i wella amrywiaeth, amrywio amseroedd cyfarfodydd y cyngor a chytuno ar gyfnodau egwyl er mwyn cynorthwyo cynghorwyr â’u hymrwymiadau eraill.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi sefydlu

Cynllun Cydraddoldeb Strategol ar gyfer 2020-2024. Dyma’n gweledigaeth ar gyfer Merthyr Tudful: “Lle y mae amrywiaeth yn cael ei gwerthfawrogi a’i pharchu ac y gall pawb gyfranogi, ffynnu a chael cyfle i gyflawni eu potensial, a hynny heb wahaniaethu a rhagfarn.” O dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, mae yn erbyn y gyfraith i wahaniaethu yn erbyn rhywun ar sail nodweddion gwarchodedig. Mae naw nodwedd warchodedig wedi’u rhestri o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Mae Adran Ddemocratiaeth CBSMT wedi creu gwefan sydd yn cynnig rhagolwg o amrywiaeth a chydraddoldeb gan gynnwys Cwestiynau Cyffredin am ddyfod yn gynghorydd.

Edrychwch ar:

https://www.merthyr.gov.uk/council/voting-and-elections/be-a-councillor/

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni