Ar-lein, Mae'n arbed amser
E-feiciau ar gael i’w benthyg yn rhad ac am ddim i drigolion Merthyr Tudful
- Categorïau : Press Release
- 17 Medi 2024
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi gweithio mewn partneriaeth â phrif elusen deithio weithredol y Deyrnas Unedig, Sustrans, er mwyn cyflwyno eu prosiect benthyg e-feiciau, E-Move, i Ferthyr Tudful.
Ariannwyd y fenter hon yn gyfan gwbl gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig drwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin, a weinyddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Bwriad y Gronfa Ffyniant Gyffredin yw cefnogi ffyniant bro ym mhob rhan o’r Deyrnas Unedig ac mae wedi ymroi i gyfrannu dros £2.6bn o nawdd ar gyfer buddsoddiad lleol yn yr Alban, Cymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr erbyn diwedd Mawrth 2025. Ei nod yw rhoi hwb i gynhyrchiant, i gyflogau, i swyddi a safonau byw yn ogystal â gwella gwasanaethau cyhoeddus, adennill ymdeimlad o gymuned a galluogi cymunedau i ffynnu.
Cynllun peilot oedd hwn yn wreiddiol, un a gyflwynwyd mewn mannau eraill yng Nghymru, ond erbyn hyn mae’r cynllun wedi cyrraedd Merthyr Tudful a chynhaliwyd y lansiad swyddogol ddydd Iau’r 12fed o Fedi 2024, gyda staff tafarn y Butcher’s Arms, Pontsticill, yn llogi’r e-feic cyntaf.
Meddai’r Cynghorydd Michelle Symonds, yr Aelod Cabinet dros Adfywio: “Bydd y prosiect e-feiciau hwn yn cynorthwyo busnesau i ddarparu modd cynaliadwy o drafnidiaeth i’w gweithwyr a gweithio tuag at leihau eu Hôl Troed Carbon, fydd yn ei dro’n cefnogi ymrwymiad y Cyngor at droi’n Sero Net erbyn 2030. Gobeithiwn y bydd y prosiect hwn hefyd yn cefnogi gostyngiad yn nhraffig yr ardal.
“Nid y busnesau’n unig fydd yn elwa o’r prosiect hwn – gall bobl sy’n byw ym Merthyr Tudful hefyd fenthyg un o ddeg e-feic sydd ar gael, yn ogystal â helmed, clo a bag beic. Byddant hefyd yn derbyn hyfforddiant gan un o swyddogion prosiect Sustrans er mwyn sicrhau eu bod yn hyderus wrth weithredu’r e-feic.”
Meddai Andrew Owen, perchennog y Butcher’s Arms: “Mae’r e-feiciau’n rhoi cyfle unigryw i ni ddarparu gwasanaeth i’n cymuned, wrth gadw at ein haddewid i ddatgarboneiddio. Mae’n ein galluogi ni i ychwanegu peth wmbreth o gyfleusterau i’n busnes, gan ein galluogi ni i gynnig gwasanaeth dosbarthu bwyd – o bosib gwasanaeth siop fwyd hyd yn oed – i’n poblogaeth fechan, ond un sy’n heneiddio, ym Mhontsticill.”
Meddai Charlie Gordon, Cydlynydd Prosiect gyda Sustrans Cymru: “Mae’n ffantastig ein bod ni’n gallu dod ag E-Move i Ferthyr, mae’r ardal yn ganolfan fywiog yng nghymoedd de Cymru ac fe fydd hi’n elwa o brosiect fel hwn.
“Mae E-Move yn rhoi’r cyfle i bobl rhoi cynnig ar E-feic yn rhad ac am ddim, mae’n rhoi’r rhyddid a’r amser iddynt roi cynnig arnynt er eu mwyn nhw eu hunain, ac yn amlach na pheidio maent yn dod i’w gwerthfawrogi!
“Rydym yn hynod o falch o gynorthwyo pobl Merthyr Tudful i gael blas ar ffurf o drafnidiaeth sy’n hwyl, sy’n gynaliadwy, ac sy’n rhad – gallwch drydanu’r batris yn y tŷ neu yn y gwaith a theithio ar hyd y lle’n gyflym ac yn rhwydd.
“Mae e-feiciau’n arbed arian i chi ar danwydd, maent yn eich cynorthwyo i ymarfer eich corff, maent yn mynd a chi’n bellach na’r beic cyffredin, ac maent yn gwneud delio gyda bryniau gymaint yn haws.”
Mae defnyddwyr blaenorol E-Move wedi sôn yn gyson am y cynnydd yn eu ffitrwydd, yn eu llesiant, yn ogystal â chynnydd yn eu hannibyniaeth a’u hyder.
Gall unigolion fenthyg e-feic am gyfnod o bedair wythnos, tra bod modd i fusnesau a sefydliadau eu benthyg am ddeuddeg wythnos.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Steve Chantrell drwy ffonio 07825 659672 neu anfonwch e-bost at Steve.Chantrell@sustrans.org.uk