Ar-lein, Mae'n arbed amser
Eisteddfod Clwstwr yn taflu golau ar dalent Cymraeg yn y Fwrdeistref Sirol
- Categorïau : Press Release , Education , Schools
- 17 Chw 2022
Heddiw, mae disgyblion ar draws Merthyr Tudful yn dangos eu talentau creadigol mewn Eisteddfod Clwstwr, digwyddiad ar-lein yn dathlu talentau yn y Gymraeg.
Cafwyd eitemau offerynnol, action, dawnsio, llefau a chanu caneuon fel ‘calon lan’, ‘sosban fach’ a ‘lliwiau’r enfys’. Bydd rhai yn performio rhai o eu caneuon gwreiddiol a ddatblygwyd mewn gwersi Cymraeg yn yr ysgol. Bydd pob cystadleuydd yn derbyn tystysgrif am eu cyflawniad.
Dwedodd y Prif Swyddog Addysg, Sue Walker: Am y tro cyntaf eleni, mae Ysgol Uwchradd Cyfarthfa a’r ysgolion cynradd sy’n ei bwydo wedi cymryd rhan mewn eisteddfod glwstwr. Mae hwn yn rhan o gynlluniau y Cyngor i gynnyddu a chefnogi datblygiad yr iaith Gymraeg ar draws y Bwrdeistref Sirol. Mae clwstwr Pen Y Dre wedi cynnal digwyddiad cyffelyb ers sawl blwyddyn, a dros y blynyddoedd nesaf gobeithiwn gefnogi clystyrau eraill i gynnal digwyddiad tebyg. Llongyfarchiadau mawr i bob un o’r plant a phobl ifanc am gymryd rhan a diolch i chi y staff am gefnogi ac i’r beirniaid am eu hamser.
Dwedodd y Pencampwr Iaith Gymraeg y Cyngor a Dirprwy Arweinydd y Cyngor y Cynghorydd Geraint Thomas,: “Mae'n wych gweld ein pobl ifanc yn dod at ei gilydd i ddathlu ein hiaith a’n diwylliant. Mae’n galonogol gwybod bod ein traddodiadau mewn dwylo diogel. Gwaith gwych pawb.”
Cefnogwyd y digwyddiad gan ‘Gronfa Ffos y Fran’.