Ar-lein, Mae'n arbed amser

Perfformwyr eisteddfod yn cael y cyfle o’r diwedd i ganu nerth eu pennau o flaen cynulleidfa fyw

  • Categorïau : Press Release , Schools
  • 01 Ebr 2022
Eisteddfod performers

Ddoe, aeth disgyblion ysgol ar draws Merthyr ar lwyfan Theatr Soar i berfformio amrywiaeth o dalentau creadigol.

Perfformiodd Ysgol Cyfarthfa, Coed y dderwen, Heol gerrig, Caedraw, Twynyrodyn, Gellifaelog a Phantysgallog amrywiaeth o eitemau o lefaru, canu a dawnsio.

Dyma’r Eisteddfod Clwstwr cyntaf i Gyngor Merthyr Tudful ei drefnu a bydd ei llwyddiant yn cael ei datblygu at y dyfodol. Mae dod trwy’r pandemig a chael cyfle o’r diwedd i berfformio o flaen cynulleidfa fawr yn hwb sylweddol i bobl ifanc ac yn galluogi‘r celfyddydau i ffynnu unwaith eto ar draws y Fwrdeistref. Mae eu cyfraniad tuag at y celfyddydau ym Merthyr Tudful hefyd yn ffordd y gall yr ysgolion gryfhau eu defnydd o’r iaith Gymraeg trwy weithgareddau celfyddydol.

Dwedodd Sue Walker, Prif Swyddog Addysg: “roedd yn hyfryd gweld plant o glwstwr Cyfarthfa a PhenyDre yn dathlu eu llwyddiannau o’r eisteddfodau clwstwr. Mae ysgolion clwstwr Penydre wedi bod yn cystadlu ers nifer o flynyddoedd ond hon oedd y tro cyntaf i ysgolion clwstwr Cyfarthfa a gobeithiwn y bydd hyn yn ehangu i’r clystyrau eraill yn y dyfodol. Llongyfarchiadau i’r holl blant a gymrodd ran heno ac yn y cystadlaethau. Dyma gyfle gwirioneddol i arddangos y gwaith sy’n digwydd yn ein hysgolion i ddatblygu ein #Shwmaeronment.”

 

 

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni