Ar-lein, Mae'n arbed amser
Cerbydau Trydan yw’ dyfodol, a nawr gallwch wefru mewn amryw o leoliadau ar hyd Merthyr Tudful
- Categorïau : Press Release
- 25 Medi 2023
Rydym yn filch o gyhoeddi bod Connected Kerb wedi bod yn brysur yn gosod mannau gwefru Newydd trwy’r dref er mwyn cefnogi cludiant tawel a chynnaliadwy wrth anelu at ymrwymiad Net Sero cyn 2050.
Mae’r mannau gwefru hyn yn chwarae rhan enfawr yn ein cynlluniau i sicthau dyfodol gwyrddach i’n preswylwyr, yn arbennig y rheiny sy’n methu gwefru cerbyd trydan gartref.
Dywed y Cynghorydd Michelle Symonds, Aelod y Cabinet dros Adfywio;
“Mae ein hymrwymiad a’n cynnnydd i gefnogi isadeiledd Cerbydau Trydan dibynadwy yn ychwanegiad gwych i’r dref a’r Fwrdeistref. Mae cyllid gan Ranbarth Prifddinas Caerdydd wedi golygu bod Cyfnod 1 wedi ei gwblhau ac nawr rydym yn symud ymlaen io sod hyd at 10 safle posib arall.”
Gellir gweld rhestr gyflawn o fath a mannau gwefru yma;
Lleoliadau | Codpost | Math a Nifer Mannau gwefru | |
---|---|---|---|
22 kw | 7 kw | ||
Maes Parcio Stryd Fictoria | CF48 3RN | 2 | 0 |
Mae Parcio Canolfan Hamdden Rhydycar | CF48 1UT | 4 | 0 |
Maes Parcio Trelewis | CF46 6AB | 2 | 0 |
Maes Parcio Stryd Perrott | CF46 5ET | 2 | 0 |
Maes Parcio Pontmorlais | CF47 8UN | 2 | 0 |
Maes Parcio’r Orbit | CF48 1DL | 0 | 2 |
Maes Parcio’r Castell | CF47 8JD | 4 | 0 |
Maes Parcio Stryd Gilar | CF47 8DP | 2 | 0 |
Maes Parcio Santest Tudful (Coleg) | CF48 1AR | 2 | 4 |
Am fwy o wybodaeth am ddefnyddio a gweithredu y mannau gwefru hyn ewch at wefan Connected Kerb ar: