Ar-lein, Mae'n arbed amser

Sicrhewch fod eich anifail anwes yn cael llety gyda gweithredwr cofrestredig

  • Categorïau : Press Release
  • 19 Ion 2023
Licensed pet boarding

Mae Adran Drwyddedu'r Cyngor yn annog preswylwyr Merthyr Tudful i sicrhau eu bod yn defnyddio lletywyr anifeiliaid cofrestredig yn unig i ofalu am eu hanifeiliaid anwes.

Rhaid i unrhyw un sy’n gofalu am gi neu gath, dros nos neu yn ystod y dydd fod yn gofrestredig gan y cyngor lleol. Mae angen y drwydded hon ar gyfer lleoliad 'kennel' traddodiadol neu eiddo domestig.

Mae pob eiddo cofrestredig yn destun i feini prawf llym er mwyn sicrhau bod safonau gofal uchel i’r anifeiliaid, a chynhelir archwiliadau i sicrhau bod y lleoliad yn addas.

Mae sawl adroddiad wedi ei derbyn yn ddiweddar gan yr adran am weithredwyr heb drwydded. Nid yw lleoliadau heb drwydded wedi derbyn archwiliad i sicrhau bod anghenion gofal a lles anifeiliaid yn cael eu cwrdd ag os yw’r person yn gofalu am yr anifeiliaid yn berson priodol i wneud. Maent hefyd yn annhebygol o fod wedi ei hyswirio os byddai rhywbeth yn digwydd i’ch anifail anwes.

Mae gan Ferthyr Tudful nifer o leoliadau wedi eu trwyddedu rhagorol ar hyd a lled y Fwrdeistref Sirol. Gellir gweld rhestr ar wefan y Cyngor: https://www.merthyr.gov.uk/business/licences-and-permits/licences-relating-to-animals/animal-boarding-public-register/?lang=cy-GB&

“Mae pawb eisiau'r lefel uchaf o ofal ar gyfer eu hanifeiliaid anwes- a thawelwch meddwl- pan yn y gwaith neu i ffwrdd o gartref, meddai’r Cyng. Michelle Symonds, deiliad y portffolio Amddiffyn y Cyhoedd, Trosedd ac Anhrefn.

“Mae’n bwysig bod preswylwyr ond yn defnyddio gweithredwyr cydnabyddedig cofrestredig er mwyn sicrhau derbyn lefel gofal uchel. Gall preswylwyr ddefnyddio'r rhestr gyhoeddus ar wefan y Cyngor i ddod o hyd i leoliadau sydd wedi eu trwyddedu, gan wybod eu bod wedi dewis opsiwn diogel ar gyfer eu hanifail anwes..”

Os oes gan unrhyw un pryder am unrhyw leoliad wedi ei drwyddedu neu heb drwydded ym Merthyr Tudful, cysylltwch gyda’r Adran Drwyddedu ar licensing@merthyr.gov.uk <mailto:licensing@merthyr.gov.uk>

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni