Ar-lein, Mae'n arbed amser
Cam cyntaf ailwampio’r Ganolfan wedi ei gwblhau
- Categorïau : Press Release
- 27 Ebr 2021
Mae ailddatblygiad y Ganolfan ym Mharc Cyfarthfa’n mynd rhagddo’n gyflym, gyda gwaith ar y caffi newydd, decio a seddi awyr agored wedi ei gwblhau yn barod ar gyfer ciniawa tu allan yn ystod yr haf.
Mae’r ailwampio - a noddir gan tua £900,000 fel rhan o raglen Llywodraeth Cymru: Canolfannau Darganfod Parc Rhanbarthol y Cymoedd - hefyd yn darparu gwagle cyfarfod cymunedol, toiledau newydd ac ystafelloedd newid yn y Pad Sblash, man chwarae ag arwyneb newydd a gwell mynediad drwy adeiladu llwybrau newydd, stepiau a phompren.
“Mae caffi gwasanaeth cyflawn gennym ni bellach yn y man perffaith i alw heibio am goffi neu fwyd a mwynhau’r olygfa wrth i’r plant fwynhau chwarae,” dywedodd Pennaeth Adfywio a Thai y Cyngor Bwrdeistref Sirol, Chris Long.
“Rydym wedi cael gwared ar barwydydd yn y gosodiad newydd i ddarparu man ciniawa agored gyda waliau a phaneli pren ac arddangosiad golau deniadol sy’n creu gwagle cynnes a chroesawgar.”
Mae prosiect Parc Rhanbarthol y Cymoedd wedi gweld buddsoddiad o fwy na £6.6m yn 11 parc a safle treftadaeth y Cymoedd, a’u galw’n Ganolfannau Darganfod, gyda’r bwriad o ddefnyddio treftadaeth naturiol a diwylliannol yr ardal i gynhyrchu buddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.
Mae Cynllun Cyfarthfa a gyhoeddwyd eleni’n dweud fod angen creu ‘profiad ymwelwyr ar raddfa ac ansawdd a fyddai’n ei nodi fel prif dirnod cenedlaethol gydag apêl ryngwladol, a fyddai’n fanteisiol i gyfraniad canolog Merthyr i’r chwyldro diwydiannol’.
Adeiladwyd y Ganolfan 11 mlynedd yn ôl, ond bu’r mynediad ati yn anodd a’r cyfleoedd arlwyo’n gyfyngedig. Bydd yr ailddatblygiad yn darparu cyfleoedd ar gyfer arlwyo ar gyfer digwyddiadau a phartïon plant, darparu hamperau picnic ac arlwyo symudol i wasanaethau’r parc fel y llyn a Chae Pandy.
Mae creu toiledau newydd a darpariaeth newid - gan gynnwys cyfleusterau i’r anabl, gyda hoist a’r holl offer angenrheidiol i wneud newid yn bosibl i bobl anabl - yn cael ei weld fel blaenoriaeth nid yn unig yn ystod tymor prysur yr haf, ond hefyd ar gyfer teuluoedd lleol ac ymwelwyr sy’n dod i ddigwyddiadau proffil uchel a gynhelir yn y parc drwy gydol y flwyddyn.
Mae’r Cyngor Bwrdeistref Sirol yn gweithio mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Hamdden Merthyr Tudful (Wellbeing@Merthyr) i gyflenwi’r prosiect, ac mae’r gwaith yn cael ei gyflawni gan gwmni o Gaerdydd sef Willis Construction.
Dywedodd Jane Sellwood o’r Ymddiriedolaeth Hamdden: “Rydym yn edrych ymlaen at groesawu pawb yn ôl i’r Ganolfan a’r ardal chwarae gydag oriau agor hirach, bwydlen newydd a rhai hen ffefrynnau.
“Bydd yn hwb go iawn i weld yr holl waith wedi ei gwblhau a bydd yn gwneud profiad yr ymwelydd gymaint yn well i gael cyfleusterau toiled newydd a gwell ar y safle a man newid mawr ei angen fel y gall bawb fwynhau diwrnod allan bendigedig yn ein Parc arbennig.”