Ar-lein, Mae'n arbed amser

Ymchwiliadau tipio anghyfreithlon yn arwain at droseddwyr yn y llys

  • Categorïau : Press Release
  • 17 Meh 2023
Fly-tipping waste

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae 25 o ymchwiliadau troseddol i dipio anghyfreithlon wedi arwain at 19 achos wedi’u cyfeirio i’w herlyn, gyda chwe Hysbysiad Cosb Benodedig o £400 wedi’u talu a dirwyon o bron i £1,500 wedi’u gorchymyn. Mae saith achos arall yn aros i gael eu clywed.

Dywedodd y Cynghorydd Michelle Symonds, Aelod Cabinet dros Adfywio, Tai a Diogelu’r Cyhoedd: “Mae’n wych gweld bod pobl yn cael eu dwyn o flaen eu gwell oherwydd yr amarch amlwg hwn tuag at ein cefn gwlad hardd.

“Mae tîm diogelu’r cyhoedd y Cyngor yn gwneud gwaith gwych yn mynd i’r afael â thipio anghyfreithlon ac mae’r erlyniadau llwyddiannus hyn yn dyst i’w gwaith caled a’u penderfyniad.”

Bydd y tîm nawr yn cynnal gweithredu gorfodi wedi'u targedu, gan ddefnyddio camerâu cudd mewn mannau lle mae'n hysbys bod llawer o dipio anghyfreithlon.

Ychwanegodd y Cynghorydd Symonds, “Hoffwn achub ar y cyfle hwn i atgoffa aelodau’r cyhoedd o bwysigrwydd gwirio am drwyddedau cludwyr gwastraff wrth ddefnyddio trydydd parti i waredu gwastraff gormodol. Dylech bob amser ofyn am gael gweld eu trwydded a gwneud cofnod o enw'r cwmni, rhif cofrestru’r cerbyd ac enw'r person sy'n cymryd eich gwastraff. Yn anffodus, gwelwn dro ar ôl tro gwastraff a gesglir gan drydydd partïon yn cael ei dipio’n anghyfreithlon, gan arwain at ymchwilio i berchennog y gwastraff a’i erlyn.

“Peidiwch â dioddef gan fusnesau gwaredu gwastraff ffug – gwiriwch bob amser eu bod wedi’u trwyddedu neu fe allech chi gael Hysbysiad Cosb Benodedig o £300, neu hyd yn oed wynebu erlyniad troseddol.”

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni