Ar-lein, Mae'n arbed amser

Diweddariad cyn adeilad YMCA

  • Categorïau : Press Release , Council
  • 14 Maw 2022
Merthyr Tydfil CBC Logo

Dydd Gwener diwethaf, Mawrth 11eg caewyd ffordd ar frys er mwyn galluogi contractwyr i gynnal gwaith strwythurol ar un o adeiladau hanesyddol Pontmorlais.

Mae cyn adeilad yr YMCA yn cael ei drawsnewid yn ‘hyb economaidd yng nghalon Merthyr Tudful’.

Mae’r adeilad Rhestredig Gradd II, sy’n wag ers dros ddegawd i dderbyn buddsoddiad £8.6m gan Raglen Menter Treftadaeth Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, rhaglen Adeiladu at y Dyfodol a Thrawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.

Bwriad yr ailddatblygiad yw troi'r YMCA yn 10 uned ar osod mewn gofod busnes o safon uchel mewn lleoliad hanesyddol unigryw’, gan ddod a’r adeilad at ddefnydd busnesau a’r gymuned.

Cyn i’r gwaith gychwyn, darganfu arolwg strwythur bod angen gwneud rhan  o flaen yr adeilad yn fwy diogel. Felly caewyd y ffordd ar frys brynhawn Gwener er mwyn i’r gwaith allu digwydd.

Cwblhawyd y gwaith nos Wener ac fe ail agorwyd y ffordd gyda signalau traffig tair ffordd.

Cynhaliwyd arolwg pellach ar y gwaith brys ac yn dilyn yr archwiliad gan ein peirianwyr strwythur, mae’r ffordd bellach wedi ail agor yn gyfan gwbl.

Diolch yn Fawr I’r busnesau lleol a’r eglwys am ddarparu lluniaeth i’r gweithwyr trwy’r nos.

Mae’r project yn cael ei arwain gan GBS Merthyr Tudful, a brynodd yr adeilad yn ddiweddar er mwyn cefnogi'r ail ddatblygiad.

Edrychwch am ddiweddariadau am y project ar sianeli cyfathrebu’r Cyngor.

 

 

 

 

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni