Ar-lein, Mae'n arbed amser
Parcio am ddim dros benwythnos y Nadolig i siopwyr Merthyr Tudful
- Categorïau : Press Release
- 23 Hyd 2024

Mae siopwyr Nadolig ym Merthyr Tudful wedi cael anrheg croeso - parcio am ddim yng nghanol y dref ar benwythnosau.
Mae Ardal Gwella Busnes (BID) Calon Fawr Merthyr Tudful a Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn dweud y bydd y cynllun parc am ddim yn annog pobl i siopa'n lleol a chefnogi busnesau lleol.
Bydd siopwyr nawr yn gallu parcio am ddim ar ddydd Gwener a dydd Sadwrn o 16 Tachwedd hyd at 28 Rhagfyr 2024.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Brent Carter: “Mae parcio am ddim yn ystod tymor y Nadolig wedi bod o fudd mawr i’n heconomi leol yn hanesyddol. Mae’n galluogi siopwyr i fwynhau a chefnogi ein siopau a’n bwytai bendigedig yn llawn heb y straen na’r gost o barcio.”
Dywedodd Elizabeth Bedford, Rheolwr Ardal Gwella Busnes Calon Fawr Merthyr Tudful: “Mae’n bwysig annog ymwelwyr a siopa’n lleol i gefnogi canol y dref”. Rydym yn ddiolchgar i’r awdurdod lleol am eu cefnogaeth, bydd y parcio am ddim yn helpu pawb.