Ar-lein, Mae'n arbed amser
Parcio Nadolig am ddim ar y Penwythnos i Siopwyr Merthyr Tudful
- Categorïau : Press Release
- 13 Tach 2023
Mae siopwyr Nadolig ym Merthyr Tudful wedi cael anrheg cynnar - parcio am ddim yng nghanol y dref ar benwythnosau.
Mae Ardal Gwella Busnes (BID) Calon Fawr Merthyr Tudful a Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn dweud y bydd cynllun Parcio am Ddim yn annog pobl i siopa'n lleol a chefnogi busnesau lleol.
Bydd siopwyr nawr yn gallu parcio am ddim ar ddydd Gwener a dydd Sadwrn o Dachwedd 17eg tan Rhagfyr 31ain 2023. Mae parcio eisoes am ddim bob dydd Sul trwy gydol y flwyddyn.
Dywedodd y Cynghorydd Geraint Thomas, Arweinydd y Cyngor: “Yn y blynyddoedd blaenorol, mae parcio am ddim yn y cyfnod cyn y Nadolig a chyn y flwyddyn newydd wedi rhoi hwb mawr i’r economi leol. Mae peidio â gorfod talu am barcio neu gael amser cyfyngedig yng nghanol y dref yn golygu y gall siopwyr ymlacio a mwynhau ein hystod wych o siopau, caffis, tafarndai a bwytai.”
Dywedodd Rheolwr Ardal Gwella Busnes Calon Fawr Merthyr Tudful, Elizabeth Bedford: “Mae’n bwysig annog ymwelwyr a siopa’n lleol i gefnogi canol y dref. Rydym yn ddiolchgar i'r awdurdod lleol am eu cefnogaeth - bydd y parcio am ddim yn helpu pawb."