Ar-lein, Mae'n arbed amser
Pympiau tanwydd wedi'u profi i sicrhau mesurau cywir
- Categorïau : Press Release
- 29 Meh 2022

Gyda’r cynnydd mewn prisiau tanwydd, mae ein swyddogion Safonau Masnach wedi cynnal gwiriadau mewn gorsafoedd petrol ar draws Merthyr Tudful i sicrhau bod mesurau tanwydd cywir yn cael eu dosbarthu i ddefnyddwyr.
Profwyd cyfanswm o 74 o bympiau tanwydd ar draws pum safle a chanfuwyd bod pob un yn gywir.
Dywedodd y Cynghorydd Michelle Symonds, Aelod Cabinet dros Ddiogelu’r Cyhoedd a Thai: “Er na all ein swyddogion wneud dim byd o gwmpas y cynnydd mewn prisiau, gallwn o leiaf sicrhau bod defnyddwyr yn cael y mesurau y maent yn talu amdanynt.
“Yn ystod yr argyfwng costau byw hwn bydd ein tîm Safonau Masnach yn parhau i fonitro busnesau i sicrhau bod defnyddwyr yn cael eu hamddiffyn rhag unrhyw arferion annheg.”