Ar-lein, Mae'n arbed amser
Hwb gyllido i adnewyddu a gwarchod cofeb Parc Troedyrhiw
- Categorïau : Press Release
- 01 Rhag 2021

Mae’r gofeb ym Mharc Troedyrhiw wedi derbyn anrheg penblwydd yn 100 oed wrth iddi gael ei hadnewyddu diolch i gyllid gan Ymddiriedolaeth Coffa Rhyfel a Chynllun Grantiau Ffos-y-Fran.
Mae’r gofeb a ddadorchuddiwyd i’r cyhoedd ar Fedi 28 1921, a sydd wedi bod heb reiffl a ddygwyd rai blynyddoedd yn ol wedi derbyn cyfanswm o £7,347.60 o gefnogaeth i gael reiffl newydd ac atgynhyrchu y cynllun marmor gwreiddiol.
Talodd y cyllid am beintio dros enwau y rhai a gollwyd yn ystod y Ddau Ryfel byd, ailbwyntwyd y gofeb a thrwsio y stepiau a glanhau y cerrig.
Gwnaed y cais gan Glwb Sefydliad Cyn Filwyr Troedyrhiw a gwnaed y gwaith gan gwmni Gwaith Cerrig Mossford.
Dywedodd Ysgrifennydd Clwb y Cyn-Filwyr, Barrie Broad “ Mae’r gofeb yn ganolog i Barc Troedyrhiw ac mae’r gwaith yn gwella edrychiad y parc a’i wneud yn fwy atyniadol.”
“Mae’r clwb y gweithio gyda 6ed Grwp Sgowtiaid Merthyr Tudful, Troedyrhiw a Eglwys St Ioan i drefnu gwasanaeth Sul y Cofio blynyddol yn y parc ac ble mae y gofeb yn brif ffocws.”
Dwedodd y Cyng Gareth Lewis: “Hoffwn i ddiolch i bwyllgor y Clwb Cyn-Filwyr am eu cefnogaeth a chymorth trwy’r prosiect adnewyddu.”
“Rydw I’n falch bod cyllid grant wedi ei gymeradwyo i’r project yma. Mae cofebion rhyfel yn ein hatgoffa or gorffennol ac yn cadw y berthynas gyda y rhai a wnaeth yr aberth eithaf a chenedlaethau wedyn i werthfawrogi y rhyddid a ddaeth o ganlyniad i’w haberth.”
“Mae Cofebion Rhyfel hefyd yn ein hatgoffa o wir gost rhyfel fel y gallwn gobeithio ddysgu y gwersi i osgoi anghydfod a cholled bellach, yn y dyfodol.”
Sefydlwyd Cronfa Gymunedol Ffos-y-fran gan y Cyngor Bwrdeistref Sirol gyda cwmni mwyngloddio lleol Merthyr (South Wales) Limited.
Mae yn rhoi £1 am bob tunnel o lo o gynllun adfer Ffos-y-fran, ac ers ei agor yn 2007 mae mwy na £6m wedi ei ddyrannu i ystod eang o grwpiau ac achosion da.
Mae Cynllun Grantiau Ffos-y-fran yn rhoi grantiau o hyd at £5,000 ddwywaith y flwyddyn , tra bod Cynllun Grantiau Bach yn cynnig hyd at £1,000 yn rhedeg trwy’r flwyddyn a gellir cael mynediad iddi trwy gynghorwyr lleol.