Ar-lein, Mae'n arbed amser

Cyllid wedi ei sicrhau ar gyfer y pwll nofio a’r parc sglefr fyrddio

  • Categorïau : Press Release
  • 14 Hyd 2022
Merthyr Tydfil CBC Logo

Bydd cais llwyddiannus am gyllid gan Lywodraeth Cymru yn gweld y pwll nofio yng Nghanolfan Hamdden Merthyr Tudful a’r parc sglefr fyrddio gyfagos yn cael ei adnewyddu ar gost o tua £5.3m.

Yn dilyn y cyhoeddiad, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol yn gweithio gyda’r datblygwr cyfleusterau hamdden ryngwladol Alliance Leisure a chwmni gwasanaethau busnes Capita Red Start i ailgynllunio’r pwll a symud y parc sglefr fyrddio yn agosach i’r ganolfan.

Disgwylir i’r gwaith ar y pwll gychwyn cyn diwedd y flwyddyn ac ar y parc sglefr fyrddio yn y gwanwyn.

“Rydym yn deall rhwystredigaeth pobl ac yn rhannu eu gofid am yr oedi yn ail agor y pwll,” meddai Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Geraint Thomas. “Ond roedd y gwaith ailwampio yn gorfod cwrdd â gofynion di garboneiddio Llywodraeth Cymru- a doedd y Cyngor ei hun ddim yn gallu talu am y gwaith.

“Ar y cyd, bydd ailddatblygiad y pwll nofio a’r ystafelloedd newid a pharc sglefr fyrddio newydd yn darparu gwell cyfleusterau iechyd a lles, ac yn atyniad i ddefnyddwyr newydd,” ychwanegodd.

Mae disgwyl i’r gwaith gychwyn ar y safle'r gaeaf hwn, gyda’r cyfleusterau yn agor yr haf nesaf. Bydd y Cyngor yn cyhoeddi diweddariadau rheolaidd er mwyn rhoi gwybod i breswylwyr am y gwaith.

“Rydym yn ddiolchgar am y cyllid i’r parc sglefr fyrddio gan nad yw’r ddarpariaeth bresennol yn addas, a bydd ei symud yn nes i’r ganolfan yn golygu ei fod yn cael ei reoli yn well ac yn fwy diogel,” meddai’r Cyng.Thomas. “Ein camau nesaf fydd ymgynghori gyda’r cynllun am y parc newydd, yn arbennig felly gyda’n pobl ifanc.”

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni