Ar-lein, Mae'n arbed amser

Cefnogaeth cyllid ar gyfer gwyl Merthyr Rising eleni

  • Categorïau : Press Release
  • 08 Meh 2022
Merthyr Rising 2022

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi helpu diogelu Gŵyl Merthyr Rising eleni trwy gyfeirio’r trefnwyr at gronfa grant lleol a chyflwyno mesurau diogelwch ffordd. Mae hyn yn ar ben y gefnogaeth a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf gan Lywodraeth Cymru.

Newidiwyd y lleoliad gwreiddiol o Sgwâr Penderyn a Redhouse Cymru i Barc Cyfarthfa ar gyngor Grŵp Cefnogi Diogelwch Digwyddiadau Merthyr Tudful (GCDD).

Gan gafwyd trafodaethau cychwynnol ym mis Rhagfyr, roedd sefyllfa Covid-19 yn ansicr a theimlai GCDD y byddai Parc Cyfarthfa yn lleoliad mwy hyblyg ar gyfer cyflwyno mesurau pellhau cymdeithasol posib.

Ond oherwydd materion ecolegol yn ymwneud a bywyd gwyllt yn y parc, symudwyd y lleoliad i’r un gwreiddiol yn hytrach na gorfod gohirio'r ŵyl.

Yn dilyn apêl i’r Cyngor gan y trefnwyr, cyfeiriodd swyddogion y trefnwyr at Gynllun Grantiau Mawr Gronfa Gymunedol Ffos y Fran, a ddyfarnodd £25,000 i’r ŵyl.

Dwedodd Arweinydd y Cyngor y Cyng. Geraint Thomas : “ Mae llawer o ansicrwydd wedi bod am yr wyl eleni. Symudwyd hi I Barc Cyfarthfa gan GCDD oherwydd pryderon am faterion Covid-19 a rheoli traffig. Ond, dangosodd arolwg ecolegol bresenoldeb ystlumod- sydd wedi eu diogelu- a oedd yn golygu symud yr wyl yn ôl i’r lleoliad gwreiddiol.

“Achosodd hyn dipyn o ben tost i’r trefnwyr ac effeithio ar gyllid. Mae’r Cyngor nawr wedi addasu'r system rheoli traffig a bydd yr un system a oedd yn bodoli yn ystod y digwyddiad goleuo'r ffagl Jiwbilî Platinwm yr wythnos diwethaf yn cael ei weithredu.

 

 

 

 

Dwedodd y trefnydd Lyn Williams; “ Mae llawer o broblemau wedi bod gyda gŵyl Merthyr Rising eleni, ac roeddem yn bryderus hyd yn oed os nad oedd wedi cael ei ohirio y byddai o bosib yr wyl olaf.

“Fel y mae hi, bydd gŵyl eleni yn well nag erioed, gyda rhestr wych o berfformwyr, ac mae’n addo i fod yn benwythnos bythgofiadwy o gerddoriaeth, diwylliant a thrafodaeth.

“Mae’r Cyngor wedi dod o hyd i ffordd i’n cefnogi, ac rydym yn ddiolchgar iawn. Gall hon fod yn foment allweddol wrth ddechrau gweithio yn agosach ac adeiladu perthynas er lles y digwyddiad a’r fwrdeistref sirol.

“Mae Llywodraeth Cymru yn gweld potensial Merthyr Rising fel digwyddiad o bwys yng Nghymru a’r rhanbarth ac yn barod i gefnogi yn ariannol gyda buddsoddiad hirdymor os bydd eleni yn llwyddiant.”

  • Sefydlwyd Cynllun Grantiau Cymunedol Ffos-y-fran gan y Cyngor Bwrdeistref sirol mewn cydweithrediad gyda Merthyr (De Cymru) Cyf, sy’n cyfrannu £1 am bob tunnel o lo a werthir o dir y cynllun adnewyddu tir Ffos-y-fran. Mae mwy na £8m wedi ei roi i ystod o grwpiau ac achosion da ers agor y safle yn 2007.

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni