Ar-lein, Mae'n arbed amser

Rhowch ail gyfle i’ch hen eitemau trwy fynd â nhw i siop ailgylchu “Bywyd Newydd” ym Merthyr Tudful!

  • Categorïau : Press Release
  • 03 Meh 2021
DSC_0366

Mae’r siop ym Mhentre-bach yn cael ei rhedeg gan Wastesavers sy’n fenter gymdeithasol yn y trydydd sector ac yn elusen gofrestredig a leolwyd yn ne-ddwyrain Cymru. Mae hon yn fenter sydd wedi ymroddi’i hun i gynaliadwyedd cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd.

Gan weithio mewn partneriaeth â’r Cyngor, nod y fenter yw dargyfeirio cynifer o eitemau â phosibl o safleoedd tirlenwi trwy roi lle i bobl fynd â’u heitemau diangen a’u gwerthu am bris gostyngedig. Mae’r elusen hefyd yn sicrhau bod gan bobl fynediad at bethau fel dodrefn a TG trwy roi rhoddion i sefydliadau lleol i’w dosbarthu ymhlith teuluoedd ac unigolion sydd eu hangen.

Agorodd y siop “Bywyd Newydd” ei drysau ar 12 Ebrill 2021 ac o fewn un mis, arbedodd dros 2,500 o eitemau rhag mynd i safleoedd tirlenwi. Dywedodd Beth Rosser, Rheolwr Rhanbarthol Wastesavers: “Rydyn ni wedi cael ymateb anhygoel gan bobl ers inni agor. Mae cwsmeriaid yn dweud wrthym ni’n gyson na allan nhw gredu’r hyn y mae pobl yn ei daflu. Mae trigolion hefyd wrth eu boddau â’r syniad fod gan eu heitemau diangen y cyfle i fynd i gartref newydd yn hytrach na sgip.”

Dywedodd Alun Harries, Rheolwr yr Elusen Wastesavers: “Rydyn ni’n falch iawn fod y siop “Bywyd Newydd” wedi cychwyn mor dda, yn enwedig o ystyried cyfyngiadau COVID.

“Ond mae hyn yn ymwneud â mwy nag arbed eitemau a fyddai fel arall yn mynd i safleoedd tirlenwi.

“Rydyn ni wedi creu tair swydd newydd a digon o gyfleoedd i wirfoddoli. Ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl heb y gefnogaeth a’r mewnbwn gwych a gafwyd gan Gyngor Merthyr Tudful.”

Dywedodd y Cynghorydd David Hughes, yr Aelod â Phortffolio ar gyfer Gwasanaethau Cymdogol: “Rwy’n hynod falch fod y siop hon wedi agor ei drysau ym Merthyr Tudful. Mae’n rhoi cyfle i bobl ailgylchu’u heitemau diangen trwy eu rhoi yn ôl i’r gymuned a chefnogi’r rhai a allai fod eu hangen. Mae hynny’n deimlad gwych i bawb sy’n cymryd rhan.

“Mae cwsmeriaid y siop yn aml yn nodi ei bod hi’n “bechod” fel y mae pobl yn taflu rhai pethau, felly penderfynon ni gael ychydig o hwyl gyda hynny heddiw!

“Rwy’n mawr obeithio y bydd yr agoriad swyddogol yn codi proffil y siop ac y bydd mwy a mwy o drigolion nid yn unig yn dewis rhoi rhodd iddi, ond yn siopa ynddi hefyd.”

Mae’r siop “Bywyd Newydd” wedi’i lleoli yn Uned 20, Parc Diwydiannol Merthyr, Pentre-bach CF48 4DR ac mae ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 09.30 a 16.30 a dydd Sadwrn rhwng 09.00 a 13.00.

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni