Ar-lein, Mae'n arbed amser

Cipolwg i’r Dyfodol Mewn Ffair Yrfaoedd Lwyddiannus

  • Categorïau : Press Release
  • 20 Gor 2023
Merthyr Tydfil CBC Logo

Roedd Y Coleg, Merthyr Tudful yn llawn dop o gyflogwyr ar ddydd Llun y 10 o Orffennaf 2023, wrth i Glwstwr Ysgolion Cynradd Cyfarthfa ac Ysgol Uwchradd Cyfarthfa uno mewn partneriaeth  â’r Coleg  a Gyrfa Cymru.

Fel rhan o’u gwaith datblygu’r cwricwlwm, cefnogodd yr ysgolion y disgyblion ym mlwyddyn 6 a 7 i ystyried beth hoffent ei wneud yn y dyfodol.

Mae profiadau sy’n gysylltiedig â gyrfaoedd a gwaith yn elfen bwysig o’r Cwricwlwm i Gymru ac mae’r cynllun Codi Dyheadau, Codi Safonau, drwy fod wedi sefydlu Partneriaeth Busnes ac Addysg Ynghyd, yn llwyr gefnogol o’r elfen hon o’r cwricwlwm.

Cefnogwyd y Ffair Yrfaoedd gan dros ugain o gyflogwyr o ystod eang o sectorau, ffrwyth yr holl waith a waned o flaenllaw. Cafodd y plant ysgol y cyfle i siarad gyda chyflogwyr, i ofyn cwestiynau, yn ogystal â chael cyfle i roi cynnig ar ambell i weithgaredd ymarferol, a fu’n gymorth i roi syniad iddynt am y math o drywydd hoffent ei ddilyn yn y dyfodol.

Cynhaliwyd gweithdy gan Gymdeithas Adeiladu’r Principality, a ganolbwyntiodd ar sgiliau ariannol, yn ogystal â rhoi trosolwg o’r mathau o swyddi sydd ar gael o fewn y Principality ei hun. Gweithiodd y plant gyda’i gilydd i edrych ar filiau’r cartref, yn ogystal ag ystyried sut allant gynilo at y dyfodol.

Cyflwynodd Tarian ROCU, sy’n rhan o dîm Seiberdroseddu’r DU, weithdy diddorol yn edrych ar Seiberdroseddu a’r math o swyddi y gallai’r plant eu profi yn y maes hwn.

Y Ffair hon oedd y digwyddiad cyntaf o’i math i dargedu plant ysgolion cynradd sy’n pontio i’r ysgol uwchradd. Roedd gan lawer o'r disgyblion ambell i syniad ynghylch eu dyfodol eisoes; rhoddodd y cyflogwyr le i’r breuddwydion hyn i dyfu a chyfle i’r plant ystyried y camau nesaf.

Bydd yr ysgolion yn adeiladu ar seliau’r digwyddiad hwn, byddant yn ystyried eu trefniant pontio ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf a hefyd yn ystyried pa fodd y gallant ymgorffori addysg gyrfaoedd ar draws yr holl Feysydd Dysgu a Phrofiad fel rhan o’u proses ailadroddol o ddylunio eu cwricwlwm.

 

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni