Ar-lein, Mae'n arbed amser

Bachwch eich lle i weld Gavin yn goleuo’r dref

  • Categorïau : Press Release
  • 08 Tach 2022
Gavin Gwynn Christmas lights

Bydd preswylwyr ac ymwelwyr i Ferthyr Tudful yn gweld pencampwr bocsio lleol diweddaraf y fro yn goleuo goleuadau Nadolig y dref yn ddiweddarach y mis hwn.

Bydd Gavin Gwynne o Dreharris, pencampwr bocsio pwysau ysgafn Prydain a’r Gymanwlad yn goleuo'r dref am y tro cyntaf ers tair blynedd yn Redhouse Cymru bnawn Sadwrn Tachwedd 19.

Enillodd Gavin, 32 oed, sy’n cael ei adnabod dan y ffug enw the Merthyr Mexican, ei deitl cyntaf ym mis Chwefror 2021 gan ddod yn bencampwr y Gymanwlad, ac yn fuan wedyn curodd Luke Willis i ddod a phencampwriaeth Prydain nol i Gymru.

Bydd y Diwrnod Hwyl Nadolig i’r Teulu yn cynnwys ffair, glôb eira enfawr, ceirw a chymeriadau yn crwydro o gwmpas, peintio wynebau a modelu balwnau. Bydd Canolfan |Siopa Santes Tudful yn cynnal Groto Siôn Corn.

Bydd yr hwyl yn cychwyn rhwng 3 pm a 8 pm ddydd Gwener Tachwedd 18 a dydd Sadwrn Tachwedd 19 rhwng 10 yn a 8 pm.Ddydd Sadwrn, bydd y gweithgareddau yn cychwyn am 11yn, gyda’r goleuadau ymlaen am 4.45 pm.

Mae’r Diwrnod o Hwyl i’r Teulu yn cael ei drefnu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, ac yn cael ei gefnogi gan Ardal Wella Busnes Calon Fawr Ferthyr Tudful a Chanolfan Siopa Santes Tudful.

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni