Ar-lein, Mae'n arbed amser

Llawer yn troi fyny i’r Ras Rufeinig

  • Categorïau : Press Release
  • 06 Medi 2022
Roman Run 22 results

Dychwelodd Ras Rufeinig y Tudfuliaid y Sadwrn diwethaf ar ôl absenoldeb o ddwy flynedd.

Oherwydd COVID-19, gohiriwyd y ras yn 2020 - a fyddai wedi dathlu ei 40fed Pen-blwydd o’i sefydlu yn 1980 i ddathlu Merthyrdod y Santes Tudful 1600 o flynyddoedd yn ôl, ac sy’n dilyn taith y lleng Rhufeinig o Gaer i Gaer.

Cofrestrodd 300 eleni, gan gynnwys nifer a oedd wedi cofrestru yn 2020. Llwyddodd 216 I gwblhau'r ras gyda Samuel Jody Richards o Pontypridd Roadents, yn dod yn fuddugol gydag amser o 1:40:45,y fenyw gyntaf oedd Kelly Bowen o Glwb Rhedeg Croft Ambrey, mewn 2:11:03. Y 1af yn ras y Meistri 40+ oedd Doug Nicholls o Pontypridd Roadents - a oedd hefyd yn drydydd - mewn 1:48:24, Y 1af yn Ras y Meistri I Fenywod 35+ oedd Clare Griffiths mewn 2:25:45.Y tîm buddugol oedd Pontypridd Roadents AC, y rhedwr lleol cyntaf ac yn bedwerydd roedd Jonathon Astley o Parc Bryn Bach AC, mewn 1:48:53, a’r fenyw leol gyntaf oedd Jennifer Evans o GRh Merthyr, mewn 2:44:08.

Gweler y ddolen ar gyfer y canlyniadau llawn:

 my.race|result (raceresult.com)

Hoffai’r Tudfuliaid ddiolch i brif noddwyr y ras eleni, yr arbenigwyr isadeiledd priffyrdd Redstart.

Dyma rai o sylwadau’r rhedwyr: “Roedd y digwyddiad wedi ei threfnu yn dda iawn, gyda’r bysiau yn cludo pawb i Aberhonddu, y tîm Achub Mynydd a oedd wrth law, a’r heddlu cyfeillgar a oedd yn cynorthwyo ar y cylchdro.”

“Er yn heriol, roedd hi’n brydferth ac yn odidog.”

“Roedd y gwirfoddolwyr yn ffantastig, gyda digonedd o orsafoedd dwr.”

“Roeddem yn gwerthfawrogi'r meiri yn dechrau’r ras ac yno i ysgwyd llaw pob un ar y llinell derfyn. Roeddem yn gwerthfawrogi'r frechdan, coffi a’r crys t ar y diwedd.”

Cychwynnodd Maer Aberhonddu'r Cyng. David Meredith y ras am hanner dydd yn Stryd yr Arian Aberhonddu ac roedd Maer Merthyr Tudful y Cyng. Declan Sammon a’i gymar, y Cyng. Paula Layton, yno i gefnogi’r rhedwyr a’u croesawu ar y llinell derfyn ym Mharc Cyfarthfa. Derbyniodd pob rhedwr fedal i ddathlu'r pen-blwydd 40fed.

Hoffai Maer Merthyr Tudful a’i gymar diolch i’r Tudfuliaid am drefnu’r digwyddiad ac am godi arian at yr elusenau dewisiedig,Cancer Aid Merthyr Tudful a Banc Bwyd Merthyr a Chynon.

Diolch hefyd i Dîm Achub Mynydd y Bannau, Acute Medics am ddarparu cymorth cyntaf, a’r holl wirfoddolwyr am eu cymorth ar y dydd. Diolch hefyd i wirfoddolwyr y Westenders am agor adeiladau ar Stryd yr Arian, Aberhonddu er mwyn cofrestru a threfnu lluniaeth i’r rhedwyr ar y cychwyn.

Mae’r Tudfuliaid yn chwilio am aelodau newydd. Os oes gan unrhyw un diddordeb mewn ymuno, cysylltwch gyda Chynorthwyydd y Maer, Jayne Overbury ar 01685 725320,neu e-bostio jayne.overbury@merthyr.gov.uk 

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni