Ar-lein, Mae'n arbed amser
AILGYLCHWCH eich glaswellt a gwastraff gardd gwyrdd arall bob pythefnos YN RHAD AC AM DDIM!
- Categorïau : Press Release
- 21 Maw 2024
Archebwch eich bagiau gwyrdd, ailgylchu gwastraff yr ardd yn rhad ac am ddim yma:
https://www.merthyr.gov.uk/do-it-online/request-or-apply/bin-or-recycling-container/products/?lang=cy-GB&
Mae’r gwasanaeth ailgylchu gwastraff gardd yn rhad ac am ddim ac yn cael ei casglu wrth ymyl y cyrb bob pythefnos rhwng Ebrill a Thachwedd. Rydym yn casglu uchafswm o 9 bag gwastraff gwyrdd ar eich diwrnod casglu.
Gellir ailgylchu gwastraff yr ardd yn ein Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn Nowlais ac Aber-fan, trwy gydol y flwyddyn.
Gwiriwch ddiwrnod eich casgliad yma: https://www.merthyr.gov.uk/resident/bins-and-recycling/check-your-collection-day/ neu cysylltwch â Wasteservices@merthyr.gov.uk
Mae gwstraff gardd sydd yn cael ei gasglu ar wahân yn cael ei anfon i ganolfan leol a’i droi’n gompost. Mae’r compost hwn yn cael ei ddefnyddio i wella’r pridd ar gyfer prosiectau tir amrywiol ac yn trawsffurfio ardaloedd yn gynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt gan harddu’r tirwedd.
Mae’ch cefnogaeth yn ein galluogi i ailddefnyddio’r adnodd defnyddiol hwn a’i droi’n ynni a fydd yn gymorth i’r Awdurdod Lleol gyflawni targedau ailgylchu a chompostio Llywodraeth Cymru.
IE, PLIS!
Dail
Blodau
Planhigion
Chwyn
Toriadau glaswellt
Toriadau o gloddiau
Toriadau o goed a llwyni
Canghenau bychan
DIM DIOLCH!
Gwastraff bwyd (defnyddiwch ein bin gwastraff bwyd yn unig)
Gwastraff anifeiliaid* (gall symiau bychan gael eu gosod yn y bin olwynion)
Gwastraff cartref na ellir ei ailgylchu*
Canghenau mawr/plociau pren**
Pridd a phrifoedd**
Cerrig**
Pren**
Planhigion ymledol (clymog Japan, efwr, llysiau’r gingroen)
* Defnyddiwch ein bin olwynion
** Ewch ag ef i Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref
Casglu Gwastraff Gwyrdd Swmpus
Mae’r Cyngor yn gweithredu gwasanaeth casglu gwastraff gwyrdd swmpus, am dâl a hynny am 10 bag neu fwy – hyd at lond lori. Am ragor o wybodaeth neu i drefnu casgliad, cysylltwch â’r ganolfan alw ar 01685 725000.