Ar-lein, Mae'n arbed amser
Mae Ysgol Arbennig Greenfield wedi datblygu Ap Llesiant newydd
- Categorïau : Press Release
- 18 Gor 2024
Dros y tri mis diwethaf bu disgyblion Ysgol Arbennig Greenfield yn gweithio gyda chwmni o’r enw Value Added Education er mwyn dylunio ap sy’n canolbwyntio ar wella llesiant a lleihau pwysau meddyliol ac emosiynol.
Llenwyd y tri mis diwethaf gydag ystod eang o weithgareddau creadigol fu’n cyfoethogi profiadau’r disgyblion. O waith celf digidol i bodlediadau, a hyd yn oed adeiladu pentref Olympaidd drwy Minecraft, ni fu prinder o gyfleoedd i’r plant ddilyn eu diddordebau ac i fynegi eu hunain. Ar ben y cwbl bu sesiynau cyfansoddi caneuon, gwaith celf acrylig wedi eu hysbrydoli gan Ffrainc, a chyfle i ysgrifennu blog – am ystod amryfal o weithgareddau! Mae’n amlwg bod y disgyblion wedi gallu manteisio ar eu creadigrwydd a dysgu mewn dull oedd wir yn hwyl ac yn atyniadol iddynt.
Golyga hyn mai Greenfield yw’r ysgol arbennig gyntaf yn y byd i fod wedi creu ap, mae’n dwyn yr enw ‘Greenfield Harmony’ a gellir ei lawr-lwytho o siop Apple.
Meddai’r Cynghorydd Geraint Thomas, Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Cabinet dros Addysg “Dylai’r bobl ifainc a’r staff yn ysgol Greenfield fod yn falch iawn o’r hyn y maent wedi ei gyflawni. Rwy’n siŵr bydd yr ap yn adnodd ffantastig i’r disgyblion a’u teuluoedd ill dau.
“Mae’n gam mawr ymlaen i addysg arbennig ac mae’n dangos esiampl gadarnhaol y gall ysgolion eraill ei dilyn. Rwy’n siŵr y bydd yr ap yn llwyddiant anferthol a bydd yn gymorth i wella’r profiad addysgol i bawb yng Ngreenfields a thu hwnt. Llongyfarchiadau i bawb yn yr ysgol am y gamp anhygoel hon!”
Ychwanegodd y Cynghorydd John Thomas, Maer Merthyr Tudful, “Llongyfarchiadau i’r bobl ifainc a’r staff yng Ngreenfields am groesawu technoleg er mwyn cyfoethogi addysg, Nid oes dwywaith amdani – bydd yr ap hwn yn newid byd, nid yn unig i Greenfield ond i’r gymuned addysg ehangach. Da iawn i bawb fu’n rhan o’r gamp ryfeddol hon! Daliwch ati!”