Ar-lein, Mae'n arbed amser
Greta ‘Bin’ Burg, Shred Sheeran a Plastic Swayze ymysg yr enwau gorau ar gyfer y fflyd ailgylchu newydd
- Categorïau : Press Release
- 19 Ebr 2024

Mae fflyd newydd sbon o gerbydau ailgylchu, rhai ohonynt ag enwau creadigol a doniol yn awr yn gwasanaethu preswylwyr Merthyr Tudful a hynny mewn ymdrech i godi ymwybyddiaeth o ailgylchu yn ein cymunedau.
Derbyniodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful gannoedd o gynigion. Daeth 16 i’r brig a’u gwahodd i’r Ganolfan Ailgylchu ym Mhentrebach i weld eu cerbyd a chasglu gwobr a noddwyd gan Gronfa Gymunedol Viridor.
Mae’r enwau newydd wedi’u harddangos ar flaen pob cerbyd. Mae’r rhestr lawn i’w gweld, isod:
Pa un yw’ch ffefryn?
Eco Evan
Poteli
Plastic Swayze
Bio 'Dai' Gradable
Georgie Cardboardie
Lori Ailgylchu
Cans Solo
Rosie Recycle
Redusa
Tin Kardashian
Dolly Carton
Shred Sheeran
Bin Crosby
Laura ASHley
Adam Salvage
Greta ‘Bin’ Burg
Dywedodd Judith Jones, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdogol:
“Hoffwn ddiolch i’r preswylwyr am gystadlu ac am yr hwyl.
"Mae’n fwy pwysig nag erioed i annog a chynorthwyo’n cymunedau i ailgylchu ac mae’r gystadleuaeth nid yn unig wedi codi ymwybyddiaeth o’r flaenoriaeth hon ond wedi dod ag elfen o hwyl iddi.
"Hoffwn hefyd ddiolch i’r criwiau sydd yn gweithio’n ddiflino am eu hymroddiad a’u dycnwch wrth ddarparu gwasanaeth gwych i breswylwyr Merthyr Tudful. Mae’r ymdrechion yn cael eu gwerthfawrogi a’u nodi bob amser.”
Am ragor o wybodaeth ynghylch gwastraff ac ailgylchu, ewch i:
https://www.merthyr.gov.uk/resident/bins-and-recycling/