Ar-lein, Mae'n arbed amser

Panel Gwobrau Uchel Siryf

  • Categorïau : Press Release
  • 08 Gor 2021
High Sheriff’s Badge of Office

YDYCH CHI’N ADNABOD PERSON IFANC NEU GRŴP SYDD YN HAEDDU CAEL EU CYDNABOD AM EU HYMDRECHION NEILLTUOL?  

Hoffai panel yr Uchel Siryf wobrwyo pobl ifanc ym Morgannwg Ganol sydd wedi gwneud cyfraniadau neilltuol naill ai gartref neu yn eu cymuned yn ystod 2001. Mae pobl ifanc, yn benodol wedi dangos dewrder mawr a gwydnwch yn ystod y pandemig a byddai’n wych medru eu cydnabod am eu cyflawniadau neilltuol.

Yn sgil y pandemig, ni chafwyd seremoni wobrwyo yn 2021 ond gobeithiwn allu cynnal y digwyddiad yn 2022 ac anrhydeddu pobl ifanc haeddiannol â gwobrau sydd gwerth miloedd o bunnoedd a hynny am eu hamser a’u hymdrech yn cyfranogi mewn mentrau sydd yn eu gosod ar wahân i’w cyfoedion. Efallai iddynt gynorthwyo eu cymunedau lleol, unigolyn neu sefydliad lleol neu gyflawni yn y byd chwaraeon neu’n academaidd.

Felly, os ydych chi neu unrhyw un yn eich sefydliad/gweithle yn gwybod am berson ifanc neu grŵp sydd rhwng 11 a 21 oed allai gael eu henwebu am wobr a gwobr ariannol o hyd at £1000, y cyfan sydd ei angen arnom yw i enwebwr sydd dros 18 oed i gwblhau ffurflen gais erbyn dechrau Medi.  E-bostiwch y cyfeiriad isod os oes angen ffurflen arnoch ond byddaf yn cysylltu â phawb un waith yn rhagor ym mis Medi â manylion ynghylch sut i gyflwyno enwebiadau.  

highsheriffmidglamorganawards@gmail.com

 

Edrychwn ymlaen at glywed gennych.

 

Jayne James, BEM DL

Cadeirydd, Panel Uwch Siryf Morgannwg Ganol

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni