Ar-lein, Mae'n arbed amser

Busnes ar y Stryd Fawr wedi ei gyhuddo o werthu dillad ‘dylunwyr’ ffug

  • Categorïau : Press Release
  • 16 Chw 2022
Pure image counterfeit clothes

Mae manwerthwr ynghanol tref Merthyr Tudful wedi derbyn dirwy o £4,000 am werthu dillad dylunwyr, ffug yn dilyn achos gan Wasanaeth Safonau Masnach y Cyngor Bwrdeistref Sirol.

Plediodd Hardial Singh, Cyfarwyddwr Cwmni Pure Image yn euog yn Llys Ynadon Merthyr Tudful i bedwar cyhuddiad o dan Ddeddf Nod Masnach 1994 sydd yn ymwneud â bod mewn meddiant a gwerthu eitemau ffug. 

Clywodd y Llys i’r Swyddogion wneud pryniant prawf a phrynu dau grys T a oedd ar y sêl ac arnynt logo ‘Calvin’ a ‘Superdry’ a hynny yn y siop ar y Stryd Fawr. Wedi iddynt gael eu harchwilio, dynodwyd eu bod yn grysau ffug. 

Wedi archwiliad pellach gan Swyddogion, aethpwyd â 69 eitem o ddillad ‘Calvin Klein’ a 304 eitem o ddillad ‘Tik Tok’ oddi yno. Cafodd yr eitemau eu harchwilio gan labelu ‘Superdry,’ ‘Calvin Klein’ a ‘Tik Tok’ a’u cadarnhau i fod yn rhai ffug gan dorri Nodau Masnach cofrestredig.   

Cafodd Pure Image Fashions Ltd ei orchymyn i dalu £4,000 mewn dirwyon, £592 mewn costau a £195 mewn gordal dioddefwr. Rhoddwyd ystyriaeth i’r ffaith iddynt bledio’n euog, yn gynnar. 

Dywedodd Craig Rusthon, Arweinydd y Tîm Safonau Masnach: “Mae gwerthiant nwyddau ffug yn peryglu busnesau a dinasyddion sydd yn parchu’r gyfraith a hynny ar nifer o lefelau – mae masnachwyr yn wynebu cystadleuaeth annheg ac mae cwsmeriaid yn derbyn dêl a chynnyrch gwael.” 

Dywedodd y Cynghorydd Geraint Thomas, Aelod o’r Cabinet ar gyfer Adfywio a Diogelu’r Cyhoedd: “Rwy’n cymeradwyo gwaith y Tîm Safonau Masnach. Mae’n bwysig cefnogi cymuned fusnes Merthyr Tudful sydd yn gweithio mor galed rhag cystadleuaeth annheg a diogelu prynwyr rhag gwario eu harian ar nwyddau ffug.”

Gallwch adrodd am werthiant nwyddau ffug, yn anhysbys drwy gysylltu â Crime Stoppers ar 0800 555 111.

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni