Ar-lein, Mae'n arbed amser

Hwb gan Ffos-y-frân i gapelu’r Stryd Fawr

  • Categorïau : Press Release
  • 10 Tach 2022
High Street Baptist Church mural

Bydd modd i dri chapel blaenllaw ar Stryd Fawr Merthyr Tudful gefnogi hyd yn oed rhagor o drigolion sy’n agored i niwed neu’n ddifreintiedig, o ganlyniad i grant lleol o dros £280,000 ar gyfer adnewyddi’r capeli.

Mae Capel y Bedyddwyr y Stryd Fawr, Eglwys Dewi Sant a Hope Church wedi derbyn arian gan Ffos-y-frân o’u Cynllun Grantiau Mawr, cynllun a gychwynnwyd gan y Fwrdeistref Sirol mewn cydweithrediad gyda Merthyr (De Cymru) Cyf. ac sy’n anrhegu £1 o bob tunnell o lo sy’n cael ei werthi o gynllun adfer tir Ffos-y-frân.

Derbyniodd Cyfeillion Capel y Bedyddwyr y Stryd Fawr £145,5000 er mwyn ailosod y to ar neuadd yr eglwys a’r tai bach, adnewyddu’r murlun sy’n dangos treftadaeth Caedraw, inswleiddio’r capel, creu llawr mesanîn, a sicrhau bod yr adeilad yn fwy cyfleus at ddefnydd bobl anabl.

Mewn arolwg a gomisiynwyd gan y grŵp codi arian, daeth i’r amlwg bod angen gwneud llawer o waith ar fyrder ar yr eglwys a’i neuadd. Cwblhawyd gwaith atgyweirio’r eglwys ym 2019, ac mae’r neuadd ar fin mynd drwy’r un broses.

Cyfanswm pris y gwaith yw £291,000 gyda gweddill y nawdd yn dod o Gronfa Deddf Eglwys Cymru, Cronfa Dreftadaeth y Loteri a chronfa’r Eglwys ei hun.

Dywedodd Cadeirydd grŵp Cyfeillion yr Eglwys, David Brill, bod y neuadd yn darparu lle i blant difreintiedig, y digartref, pobl sydd ag anghenion iechyd a llesiant, a thrigolion sy’n agored i niwed neu sy’n unig.

“ Mae bron i bob gweithgaredd rydym yn ei gynnal yn gwella llesiant pobl, gan gynnwys ymarfer corff ysgafn i bobl hŷn, dosbarthiadau Sliming World, dosbarthiadau Zumba, Côr Meibion Dowlais, hawliau a lles plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o’r gwasanaeth gofal, dawns de i’r sawl sy’n 65 mlwydd oed neu’n hŷn, a’r dosbarth Yfwch yn Ddoeth – Heneiddiwch yn Iach” ychwanegodd.

“Mae ymateb hynod o hael Cronfa Ffos-y-frân wedi ein rhyddhau ni i wireddi’r breuddwydion rydym wedi bod yn eu meithrin ers oesoedd. Mae’r neuadd mewn lleoliad mor ddelfrydol, a byddwn nawr yn gallu adnewyddu’r lle i safon fydd yn ein galluogi ni i wasanaethu’r oes bresennol. Mae Cyfeillion Capel y Bedyddwyr y Stryd Fawr, a’r gymuned ehangach yn ofnadwy o ddiolchgar am y gefnogaeth.”

Dyfarnwyd hefyd £110,000 o’r Gronfa Grant Mawr i Ardal Weinidogaeth Merthyr Tudful er mwyn iddynt addasu’r gofod sydd ganddynt yn Eglwys Dewi Sant, a £28,140 i Hope Church er mwyn iddynt adnewyddu’r tai bach.

Mae Eglwys Dewi Sant yn cynnig lle i grwpiau elusennol sy’n canolbwyntio ar rieni ifanc, yr anabl a phobl hŷn, ac mae’n cael ei defnyddio gan nifer helaeth o asiantaethau galw-heibio. Bydd y gwaith yn cynnwys tynnu’r corau er mwyn gallu gwneud y llawr yn wastad, gwella cyfleusterau’r gegin a’r ardal gofal plant ac estyniad i’r caffi, er mwyn galluogi defnydd mwy helaeth ohono.

“Adeilad hanesyddol arwyddocaol yng nghanol Merthyr Tudful yw Eglwys Dewi Sant” meddai’r Offeiriad-Reolwr, y Tad Mark Prevett. “Mae’r eglwys wedi bod mewn defnydd parhaus ers 1847, a bydd y nawdd yn ein galluogi ni i ddarparu gofod cymunedol amlddefnydd fydd wrth wraidd ein tref.”

Bydd Hope Church yn defnyddio’r nawdd i adnewyddu tai bach yr adeilad, darparu tŷ bach anabl ac er mwyn cefnogi’r costau gweinyddol a glanhau. Bob wythnos mae tua 150 o bobl yn defnyddio pantri bwyd cynaliadwy’r eglwys a’r caffi cyfeillion anifeiliaid anwes.

“Mae unigrwydd yn fater cyffredin yn y fwrdeistref sirol” meddai Ymddiriedolwraig yr eglwys a rheolwraig y pantri, Heidi Jacobsen. “Mae ein caffis cyfeillgarwch ar agor i unrhyw oedolyn a hoffai ddianc o’r tŷ am awr, cymryd rhan mewn amryw weithgareddau neu eistedd a sgwrsio dros baned.”

Am ragor o wybodaeth neu ffurflen gais, cysylltwch â Swyddog Cronfa Budd Cymunedol Ffos-y-frân drwy ffonio 07563 398667 neu e-bostiwch ffosyfran@merthyr.gov.uk

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni