Ar-lein, Mae'n arbed amser
Cynyddu Niferoedd Mannau Gwefru Cerbydau Trydan yn y Fwrdeistref Sirol
- Categorïau : Press Release , Council
- 24 Meh 2022
Mae’r Cyngor yn cynyddu'r niferoedd mannau gwefru Cerbydau Trydan ar draws Merthyr Tudful er mwyn ymateb i’r twf mewn cerbydau trydan, a chefnogi’r ymrwymiad i fod yn Awdurdod Lleol Net Sero erbyn 2030.
Bydd y Cyngor yn gosod 13 man gwefru mewn meysydd parcio cyhoeddus yn y Fwrdeistref Sirol gyda chefnogaeth Awdurdod Trafnidiaeth Rhanbarth Prifddinas Caerdydd a Connected Kerb Cyf a fydd yn gosod y gwefrwyr.Gyda datganiad ‘Argyfwng Hinsawdd’ Llywodraeth Cymru, mae gan y Cyngor rol bwysig i chwarae wrth gefnogi yr uchelgais net sero a chryfhau cynaliadwyedd ar draws y Fwrdeistref Sirol.
Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Adfywio ac Arweinydd y Cyngor, y Cyng. Geraint Thomas, “Mae gosod y mannau gwefru trydan yn enghraifft arall o ymrwymiad y Cyngor o gyflawni'r uchelgais o fod yn net sero ym Merthyr Tudful. Bydd yr isadeiledd o’r radd flaenaf hon nid yn unig yn cefnogi'r defnyddwyr cerbydau trydan yn y Fwrdeistref, ond hefyd yn mynd a ni gam yn agosach at gyflawni ein hamcanion.
Am fwy o wybodaeth a COA am weithredu mannau gwefru trydan mewn meysydd parcio ewch at: Connected Kerb App for Drivers