Ar-lein, Mae'n arbed amser

Tipiwr anghyfreithlon gwastraff cartref yn cael dirwy o £400

  • Categorïau : Press Release
  • 24 Chw 2022
Fly Tipping Eyecatcher (3).jpg

Mae preswyliwr o Fochriw wedi derbyn dirwy am dipio anghyfreithlon ar y mynydd ger Ffordd Bogey ar ôl cael ei adnabod gan Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd y Fwrdeistref Sirol.

Talodd y ddynes yr hysbysiad gosb benodedig (HCB) o £400  am daflu cardfwrdd a gwastraff cartref amrywiol.

Dwedodd Rob Thomas Swyddog Gorfodi Amgylcheddol y Cyngor, “Rydym yn benderfynol o rwystro'r nifer bychan o unigolion anghyfrifol sy’n llygru ffyrdd  chefn gwlad Merthyr Tudful. Fyddwn ni ddim yn oedi cyn cyflwyno rhybuddion cosb neu erlid troseddwyr sy’n cael eu hadnabod.”

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Adfywio a Diogelwch y Cyhoedd, y Cynghorydd Geraint Thomas: “Mewn ad-drefnu diweddar o Adrannau'r Cyngor symudwyd y tîm tipio anghyfreithlon i adran Diogelwch y Cyhoedd a gweithio ochr yn ochr gyda gwasanaethau gorfodi eraill y Cyngor er mwyn taclo'r tipwyr anghyfreithlon yn fwy eang.

“Dyma ddechrau ein brwydr gyda phobl ddiog a diegwyddor sy’n niweidio ein bwrdeistref sirol gyda’u sbwriel.”

 

 

 

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni