Ar-lein, Mae'n arbed amser
Deli eiconig ym Merthyr Tudful yn dychwelyd i’r Stryd Fawr wedi 40 mlynedd
- Categorïau : Press Release
- 22 Rhag 2021
Agorwyd Johnsons’ Delicatessen ym 1982 gan Jim a Joan Johnson fel hafan i brynu cigoedd Eidalaidd, caws a danteithion ym Merthyr Tudful. Bu ar agor am dros ddegawd.
Yn awr, bron i 40 mlynedd yn ddiweddarach, mae’r siop leol wedi ailagor ei drysau ynghanol y dref, diolch i Jessica Howells, wyres y perchnogion gwreiddiol a ‘dyfodd i fyny’ yn y siop wreiddiol.
Cafodd y siop ei hagor, Ddydd Sadwrn, 4 Rhagfyr a hynny yn sgil buddsoddiad gan gynllun Yn y Cyfamser, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful sydd yn cynorthwyo busnesau newydd i agor yn adeiladau gwag canol y dref.
Derbyniwyd arian ychwanegol yn ogystal gan Raglen Targedu Buddsoddiad Mewn Adfywio, Llywodraeth Cymru.
Mae’r deli’n cynnig amrywiaeth eang o fwydydd parod i’w bwyta, o gigoedd a chawsiau Eidalaidd i goffi, teisennau, prydau poeth a bara ffres sydd wedi eu dylanwadu gan y siop wreiddiol.
Er mwyn cysylltu’r hen â’r newydd, bydd y deli hefyd yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau unigryw ar gyfer y sawl sydd yn mwynhau eu bwyd a fydd yn cynnwys pob dim o nosweithiau blasu i ddosbarthiadau meistr. Bydd y sesiwn gyntaf yn blasu coffi o dan arweiniad Big Dog Coffee, Glyn Ebwy ar Ddydd Mercher 29 Rhagfyr.
Cadwch lygad ar dudalen Facebook y deli am ragor o wybodaeth ynghylch y digwyddiad.
Daw holl gynhwysion a bwyd y deli o gwmnïau lleol - daw’r coffi o Big Dog Coffee, y cawsiau o Gaws Cenarth, yr wyau o Wyau Trecastell yn Aberhonddu ac mae’r bara ffres yn cael ei wneud gan y pobydd, Alex Gooch.
Cafodd y siop wreiddiol ei hysbrydoli gan siopau gogledd yr Eidal, y daeth Jim Johnson ar eu traws wrth seiclo ar draws Ewrop ym 1954. Wedi iddo gael ei ymddiswyddo, penderfynodd Mr. Johnson ddechrau busnes newydd gan agor y siop wreiddiol, gyda’i wraig, Joan yn brif gogydd ym 1982.
Tyfodd y deli Eidalaidd mewn poblogrwydd, gan ffynnu mae’n siŵr yn sgil yr Eidalwyr a oedd yn byw ym Merthyr Tudful a’r cymoedd. Y gobaith yw parhau i weini cwsmeriaid bodlon ac i’r siop newydd fwynhau’r un cyffro.
Dywedodd y perchennog, Jessica Howells: “Mae’r siop wreiddiol yn rhan mor bwysig o hanes fy nheulu ac rwy’n hoffi meddwl fod y siop yn bwysig hefyd yn hanes Merthyr. Mae gen i nifer o atgofion cynnar o siop fy Mam-gu a fy Nhad-cu ac rwy’n gobeithio y bydd fodd i fy mab sydd yn 3 oed gael profiad tebyg.
“Fy mwriad yw cynnig cynnyrch o’r safon uchaf y gall pobl leol eu mwynhau gan gefnogi darparwyr lleol a meithrin ymdeimlad o gymuned ynghanol y dref. Yn sgil cyllid gan y Cyngor a chyngor arbenigol gan fy Nhad-cu, mae’r freuddwyd yn troi’n realiti ac rwy’n gyffrous i weld beth fydd gan y dyfodol i’w gynnig.
“O waelod fy nghalon, hoffwn ddiolch i bobl Merthyr Tudful am eu cefnogaeth. Galla’i ddim aros i’ch croesawu chi am goffi a Phicau ar y Maen cyn hir!”
Dywedodd y Cynghorydd Geraint Thomas, Aelod o’r Cabinet at gyfer Adfywio, Trawsffurfio a Masnacheiddio: “Wrth i 2021 ddirwyn i ben ac i ni edrych ymlaen at 2022 fwy llewyrchus, mae’n hyfryd i weld busnes arall yn agor ym Merthyr Tudful, yn enwedig un sydd â chysylltiadau mor bwysig â hanes y dref. Rwy’n siŵr y bydd Jessica a’r tîm yn derbyn croeso gwresog gan gwsmeriaid hen a newydd sydd yn mwynhau eu bwyd.
“Johnsons’ Delicatessen yw’r diweddaraf mewn rhestr hir o fusnesau sydd yn manteisio ar Gynllun Yn y Cyfamser y Cyngor yn 2021 ac rwy’n falch i gyhoeddi y bydd rhagor yn dilyn ynghanol y dref yn 2022.
“Mae’n rhan o gynllun meistr ehangach y Cyngor ar gyfer y dref sydd yn ceisio trawsffurfio Merthyr Tudful yn brifddinas twristiaeth y Cymoedd erbyn 2035.”