Ar-lein, Mae'n arbed amser

Ymunwch â'n Panel ar-lein i Ddinasyddion

  • Categorïau : Press Release , Council , Education , Schools , Corporate
  • 22 Gor 2021
Cwm Taf Hub - Have your say logo

Ein swyddogaeth ni yw cynnig platfform i’n cwsmeriaid gael clywed eu lleisiau ac yn aml mae hynny’n golygu dod o hyd i’r cwsmeriaid rheini nad ydym yn clywed cymaint ganddynt. Nid ydym am glywed gan ein cefnogwyr a’n llysgenhadon yn unig, yn hytrach, rydym am gwsmeriaid sydd yn mynd i’n gwthio ni i feddwl yn wahanol a gwella’n gwasanaethau.

Rydym yn datblygu panel ar-lein newydd i ddinasyddion ac rydym yn gwahodd preswylwyr lleol i ymuno â ni a bod yn rhan o wella bywydau’r rheini sydd yn byw yn ein Bwrdeistref Sirol.

Rydym yn ei chael yn anoddach i gyrraedd preswylwyr ifanc, yn enwedig y rheini sydd rhwng 18 a 34 oed felly os oes unrhyw un yn eich cartref chi sydd o’r oed hynny, byddem yn hynod awyddus eu bod yn ymuno â ni.

Mae hwn yn gyfle cyffrous i gynorthwyo i ddatblygu gwasanaethau lleol, yn enwedig wrth i ni reoli’r adferiad yn sgil effeithiau COVID-19. Nid oes angen fawr o ymroddiad; byddwch yn cael eich gwahodd i gyfranogi ar-lein mewn arolygon barn, er enghraifft a gallwch ddewis pa weithgareddau yr hoffech fod yn rhan ohonynt.  

Bydd y panel hwn yn gymorth i ni ddeall safbwyntiau’n preswylwyr ar amrywiaeth eang o faterion fel darpariaeth ein gwasanaethau rheng flaen, yr amgylchedd a’r economi leol. Bydd adborth o’r panelu yn hysbysu’n penderfyniadau ac yn ein cynorthwyo i wneud y pethau iawn er mwyn cyflawni anghenion pobl leol.

Os oes gennych ddiddordeb i fod yn rhan o hyn, e-bostiwch corporate.communications@merthyr.gov.uk a bydd aelod o’r tîm yn cysylltu â chi â mwy o fanylion ac i gadarnhau’ch lle ar y panel.

Y bwriad yw cynnal panelu ffocws cwsmeriaid bob yn ail fis.

Peidiwch anghofio bod ffyrdd eraill y gallwch rannu’ch safbwyntiau ar wefan y Cyngor neu ein safleoedd cyfryngau cymdeithasol.

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni