Ar-lein, Mae'n arbed amser
Liam yn edrych ymlaen at gynnau’r goleuadau’n rhithiol
- Categorïau : Press Release
- 10 Tach 2021
Mae Liam Reardon, enillydd lleol Love Island yn edrych ymlaen at gael bod yn rhan o ddarllediad cynnau’r goleuadau Nadolig, yn rhithiol ym Merthyr Tudful eleni.
Dywedodd ein preswylydd poblogaidd y byddai wedi hoffi gallu cynnau’r goleuadau mewn digwyddiad ‘go iawn’ ar Ddydd Sadwrn 13 Tachwedd ond roedd yn deall yr angen i gadw torfeydd o ganol y dref.
Mae’r Cyngor Bwrdeistref Sirol a’i bartneriaid, Calon Fawr Ardal Gwelliant Busnes Merthyr Tudful a Chanolfan Siopa Santes Tudful wedi penderfynu na ddylid cynnal digwyddiad byw unwaith yn rhagor, eleni a hynny gan fod achosion Covid-19 yn parhau i fod yn uchel, ledled y DU.
Yn debyg i’r hyn ddigwyddodd yn 2020, bydd cyflwynwyr Capital FM, Josh Andrews a Kally Davies yn darlledu noson o adloniant o bencadlys yr orsaf radio a fydd yn cynnwys sgwrs â Liam am ei gynlluniau ar gyfer y Nadolig.
Dywedodd y Cynghorydd Geraint Thomas, Aelod o’r Cabinet ar gyfer Adfywio, Trawsffurfio a Masnacheiddio: “Mae’r seremoni bob amser yn denu torfeydd mawr – cymaint â 7,000 o bobl i Sgwâr Penderyn felly nid ydym am beryglu ychwanegu at yr achosion o Covid.
“Rydym yn apelio ar bobl i beidio â dod i’r dref er mwyn gweld y goleuadau’n cael eu cynnau gan na fydd dim yno iddynt eu gweld.”
Dywedodd Huw Williams, Cadeirydd Calon Fawr Merthyr Tudful: “Rydym yn addo cyfnod hwyliog i breswylwyr o hyd, yn y cyfnod sydd yn arwain at y Nadolig.
“Yn ogystal â’r gweithgareddau ar-lein, mae’n masnachwyr wedi gwneud pob dim posib er mwyn sicrhau bod eu safleoedd yn ddiogel ar gyfer siopwyr. Rydym yn eich annog i ‘siopa’n ddiogel, yn lleol ac ym Merthyr’ dros y Nadolig.”
Bydd gweithgareddau yng nghanol y dref trwy gydol y dydd ar 13 Tachwedd. Bydd ymweliad gan Siôn Corn a dau o’i gorachod, adloniant stryd, rhoddion o felysion a theganau a Marchnad Nadolig. Bydd seremoni cynnau’r goleuadau’n rhithiol yn cael ei chynnal ar Capital Radio am 6pm.
Am ragor o wybodaeth, ewch i gyfryngau cymdeithasol Caru Merthyr, Canolfan Siopa Santes Tudful a’r Cyngor.