Ar-lein, Mae'n arbed amser
Disgyblion lleol yn ganolog i fynd i'r afael â chynhwysiant mewn chwaraeon
- Categorïau : Press Release
- 10 Gor 2025

Dangosodd disgyblion Abercanaid, Troedyrhiw, Bedlinog, a Threlewis angerdd ac ymrwymiad mewn digwyddiad yn y Ganolfan Ddinesig, Ddydd Iau, 10 Gorffennaf, lle y trafodwyd un o'r materion mwyaf dybryd yn y byd chwaraeon: cynhwysiant. Dan arweiniad y Cynghorydd Brent Carter, Arweinydd y Cyngor, bu’r disgyblion yn trafod cymhlethdodau gwneud chwaraeon yn hygyrch i bawb, waeth beth fo'u cefndir a’u gallu.
Dywedodd y Cynghorydd Brent Carter: "Roedd yn wirioneddol ysbrydoledig gweld y meddyliau ifanc hyn yn ymgysylltu mor ddwfn â'r pwnc o gynhwysiant mewn chwaraeon. Dangosodd eu dadleuon, o blaid ac yn erbyn, ddyfnder o ddealltwriaeth ac empathi sy'n hanfodol ar gyfer creu amgylchedd chwaraeon mwy cynhwysol. Mae'n amlwg bod dyfodol ein cymunedau mewn dwylo da gyda'r unigolion meddylgar ac angerddol hyn."
Roedd y ddadl yn galeidosgop o farn, gyda rhai disgyblion yn eirioli'n gryf dros gynhwysiant, gan dynnu sylw at fanteision amrywiaeth a chyfle cyfartal mewn chwaraeon. Cyflwynodd eraill wrthddadleuon, gan sbarduno trafodaeth fywiog a pharchus a archwiliodd yr heriau a'r atebion posibl i gyflawni cynhwysiant.
Yr hyn a wnaeth y ddadl hon yn arbennig o nodedig oedd gwaith paratoi ac ymroddiad amlwg y disgyblion. Roedd eu dadleuon nid yn unig yn galonogol ond hefyd wedi'u hymchwilio'n dda, gan ddangos diddordeb gwirioneddol mewn creu newid cadarnhaol. Fel y nododd y Cynghorydd Brent Carter, "Mae lefel yr ymgysylltu ac ansawdd y dadleuon a gyflwynir gan y disgyblion hyn yn dyst i'r gwaith rhagorol sy'n cael ei wneud yn ein hysgolion lleol i feithrin meddwl beirniadol, empathi ac ysbryd cymunedol."
Roedd y ddadl nid yn unig yn darparu llwyfan i'r disgyblion fynegi eu barn ond hefyd yn atgof o bwysigrwydd cynhwysiant ym mhob agwedd o fywyd, gan gynnwys chwaraeon. Tynnwyd sylw at yr angen am ddeialog a gweithredu parhaus i sicrhau bod pawb yn cael cyfle i gymryd rhan a mwynhau chwaraeon, waeth beth fo'u hamgylchiadau.
Efallai bod y ddadl drosodd, ond mae'r sgwrs newydd ddechrau. Wrth i'r gymuned barhau i drafod a gweithio tuag at fwy o gynhwysiant mewn chwaraeon, mae un peth yn glir: bydd lleisiau a syniadau'r disgyblion hyn yn chwarae rhan bwysig wrth lunio diwylliant chwaraeon mwy cynhwysol a bywiog ar gyfer cenedlaethau i ddod.