Ar-lein, Mae'n arbed amser

Dathlu mawr ar gyfer ‘Shwmae Su’Mae’ yr Iaith Gymraeg

  • Categorïau : Press Release
  • 10 Hyd 2022
SHWMAE-SUMAI-heb-diwrnod_day-298x300

Bydd dathliad mawr yr Iaith Gymraeg yn cael ei gynnal y mis hwn gyda’r ‘Diwrnod Shwmae Su’Mae’ blynyddol ym Mharc Cyfarthfa.

Bydd y digwyddiad a fydd yn cael ei gynnal gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn digwydd Ddydd Sadwrn, 15 Hydref ac yn cynnwys perfformiadau gan Gôr Meibion Dowlais a’r delynores broffesiynol, Elin Butler.

Bydd y celf, diwylliant a chwaraeon yn rhan fawr o’r digwyddiad a bydd perfformiadau ynghylch Syr Ifan ab Owen Edwards, yr academydd, yr awdur a’r gwneuthurwr ffilmiau a sefydlodd Urdd Gobaith Cymru. Bydd cynrychiloydd yno hefyd o Gymdeithas Bêl-droed Cymru a fydd yn ateb eich cwestiynau – un o’i digwyddiadau olaf cyn i’r tîm hedfan i Gwpan y Byd yn Qatar.

Yn ogystal ag adloniant, bydd stondinau gan amrywiaeth eang o fusnesau Cymreig yn gwerthu cynnyrch unigryw fel gwaith pren, mygiau, bagiau, llyfrau Cymraeg, cardiau cyfarch, canwyllau a dillad. 

Bydd Ysgol Gyfun Rhydywaun, Ysgol Gynradd Gymraeg Santes Tudful, Ysgol Gymraeg Rhyd-Y-Grug, Ysgol Gynradd Pantyscallog, Ysgol Gynradd Coed y Dderwen ac Ysgol Gynradd Edwardsville yn cymryd rhan.

Dywedodd y Cynghorydd Michelle Symonds, Eiriolydd Iaith Gymraeg y Cyngor:  “Pwrpas y dydd yw i bobl ddweud ‘s’hwmae su’mae’ i’w gilydd. Mae’n ddigwyddiad cenedlaethol, blynyddol sydd yn cael ei drefnu yn unol â strategaeth Iaith Gymraeg y Cyngor;  ‘Shwmaeronment’.

“Mae ‘Diwrnod Shwmae su’mae’ wedi tyfu i fod yn gyfle gwych, blynyddol i holl gymuned Merthyr Tudful i ddod ynghyd i hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg.

“Mae’n bartneriaeth a gefnogir gan Rhieni Dros Addysg Gymraeg, Menter Iaith Merthyr Tudful, Urdd Gobaith Cymru, Coleg Merthyr, Mudiad Meithrin a Cymraeg i Blant, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Dysgu Cymraeg Morgannwg ac Adran Blynyddoedd Cynnar Cyngor Merthyr.”

  • Mae ‘Diwrnod Shwmae Su’mae’ yn cael ei gynnal ym Mharc Cyfarthfa ar 15 Hydref, rhwng 10am a 4pm.

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni