Ar-lein, Mae'n arbed amser

Straeon gofalwyr maeth Merthyr yn dangos y gall pawb gynnig rhywbeth a chefnogi plant mewn gofal yng Nghymru

  • Categorïau : Press Release
  • 08 Ion 2024
FW Jan24

Mae mwy na 7,000 o blant yn y system ofal yng Nghymru, ond dim ond 3,800 o deuluoedd maeth.

Ar hyn o bryd mae gennym 83 o blant a phobl ifanc mewn gofal maeth ym Merthyr Tudful; ac mae angen mwy o ofalwyr maeth arnom i sicrhau bod ein holl blant yn cael y gofal a’r cymorth y maent yn eu haeddu.

Heddiw, aeth Maethu Cymru, y rhwydwaith cenedlaethol o 22 o dimau maethu awdurdodau lleol Cymru, ati gyda’r nod beiddgar o recriwtio dros 800 o deuluoedd maeth erbyn 2026, i ddarparu cartrefi diogel i bobl ifanc lleol.

Mae Maethu Cymru Merthyr Tudfil wedi ymuno â’r ymgyrch newydd, ‘gall pawb gynnig rhywbeth,’ gan ddefnyddio eu hased mwyaf – gofalwyr maeth presennol – i rannu profiadau realistig o ofal maeth ac archwilio’r nodweddion dynol bach ond arwyddocaol sydd gan bobl a all wneud byd o wahaniaeth i berson ifanc mewn gofal.

Mae Maethu Cymru wedi siarad â dros 100 o bobl i ddatblygu’r ymgyrch – gan gynnwys gofalwyr maeth, gweithwyr cymdeithasol, athrawon, aelodau’r cyhoedd, a’r rhai sy’n gadael gofal.

Amlygodd ymatebion y grwpiau hyn dri pheth allweddol a oedd yn atal darpar ofalwyr rhag ymholi:

  • Diffyg hyder yn eu sgiliau a'u gallu i gefnogi plentyn mewn gofal.
  • Y gred nad yw maethu yn cyd-fynd â rhai ffyrdd o fyw.
  • Camsyniadau ynghylch y meini prawf i ddod yn ofalwr.

Gyda’r wybodaeth hon, mae Maethu Cymru wedi defnyddio straeon go iawn gofalwyr yng Nghymru i ddangos bod maethu awdurdodau lleol yn hyblyg, yn gynhwysol, ac yn dod â chyfleoedd hyfforddi a datblygiad proffesiynol helaeth.

“Roedd gennym ni eisoes yr holl sgiliau oedd eu hangen arnom i ddod yn ofalwyr maeth – ac mae angen i fwy o bobl wybod bod ganddyn nhw’r sgiliau hefyd”

Clywch gan ein Gofalwyr Maeth, Chloe a Corey:

Mae Chloe a Corey yn ofalwyr maeth ym Merthyr, ac maen nhw’n gofalu am bobl ifanc yn eu harddegau ar hyn o bryd. Roeddent yn gwybod am gyfnod eu bod am faethu ond nid oeddent erioed wedi ystyried maethu pobl ifanc yn eu harddegau nes iddynt ddechrau eu taith faethu. Maen nhw wedi darganfod bod bod yn gwpl ifanc, hamddenol wedi eu helpu i fondio gyda’r bobl ifanc yn eu gofal. A bod amynedd, dealltwriaeth a bod yn dîm yn sgiliau hynod bwysig i'w cael fel gofalwyr maeth.

“Rydym wedi dysgu’n ddiweddar bod cymryd cam yn ôl weithiau yn beth da a gadael iddynt ddod atoch pan fyddant yn barod yw’r allwedd i chwalu rhwystrau gyda rhai pobl ifanc yn eu harddegau.

Rydyn ni’n gweithio gyda’n gilydd fel tîm i oresgyn unrhyw bryderon, ac mae barn pawb yn cael ei gwerthfawrogi sy’n sgil hanfodol i allu cefnogi plentyn mewn gofal – gan wneud yn siŵr bod eu llais yn cael ei glywed. Rydym yn eiriol dros ein harddegau ac yn eu cynnwys yn yr holl benderfyniadau.

Yn ddiweddar cawsom ein noson rieni gyntaf gyda C, a’r unig air a ddefnyddiwyd i’w ddisgrifio oedd ‘rhagorol’ gan bob athro. Dywedodd un athro fod C yn uchel iawn ein canmoliaeth fel ei ofalwyr maeth ac maent yn teimlo sydd wedi ei helpu i ymgartrefu’n rhwydd yn yr ysgol uwchradd. Mae C yn ffynnu yn yr ysgol ac rydw i wir yn credu ei fod yn adlais o’r ffaith bod ei fywyd cartref mor sefydlog a bodlon.”

Mae Cymru ar flaen y gad ym maes gwasanaethau plant

 

Ar hyn o bryd, mae Cymru yn y broses o newid system gyfan ar gyfer gwasanaethau plant.

Gwnaeth y newidiadau a gynigir yng nghytundeb cydweithredu 2021 rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru ymrwymiad clir i ‘ddileu elw preifat o ofal plant sy’n derbyn gofal’.

 

Mae hyn yn golygu, erbyn 2027, y bydd gofal plant sy’n derbyn gofal yng Nghymru yn cael ei ddarparu gan sefydliadau sector cyhoeddus, elusennol neu ddielw, ac mae’r angen am ofalwyr maeth awdurdodau lleol yn fwy nag erioed.

 

Dyfyniad gan Joanne Llewellyn, Pennaeth Gwasanaethau Plant ym Merthyr

“Mae gennym ni ofalwyr maeth anhygoel yma ym Maethu Cymru Merthyr Tudful, sy’n cefnogi ein plant drwy gynnig eu profiad, sgiliau, empathi a thosturi.

“Mae wastad angen mwy o bobl anhygoel yn ein hardal ni i faethu. Dim ond gydag ymroddiad ein gofalwyr maeth gwych y gallwn sicrhau bod pob plentyn lleol sydd ei angen yn cael lle croesawgar a diogel i’w alw’n gartref.

“Mae Maethu Cymru Merthyr yn gymuned glos iawn, ac mae’r tîm o amgylch ein gofalwyr maeth bob amser yn mynd gam ymhellach i sicrhau bod gennych y cymorth y gallai fod ei angen arnoch, yn ogystal â mynediad at wybodaeth leol, a phecyn dysgu a datblygu gwych. Darperir hyn i gyd er mwyn i chi allu helpu plant i aros yn eu cymuned leol eu hunain, yn agos at ffrindiau, eu hysgol, a phopeth sydd ganddynt yn agos.

“Rydym yn annog unrhyw un sydd eisiau gwneud gwahaniaeth i fywyd plentyn i ddod â’u sgiliau a’u profiad i’r bwrdd a chysylltu â Maethu Cymru Merthyr.”

Mae’r ymgyrch yn dechrau ddydd Llun 8 Ionawr ar draws teledu, gwasanaethau ffrydio, radio, digidol, cyfryngau cymdeithasol, a chyda digwyddiadau amrywiol mewn cymunedau lleol ledled Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth am faethu, neu i wneud ymholiad, ewch i:

www.merthyrtudful.maethucymru.llyw.cymru

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni