Ar-lein, Mae'n arbed amser

Gŵyl Lenyddiaeth Blant Merthyr Tudful 2023

  • Categorïau : Press Release
  • 17 Ebr 2023
Lit Fest 23

Yr Ŵyl yw’r mwyaf yn y DU yn dathlu Diwrnod y Llyfr.

Cynhelir y digwyddiad Ddydd Iau Ebrill 20 2023 rhwng 9am a 3pm gyda dros 4000 o blant ym Merthyr Tudful, De Cymru ac wedi ei leoli mewn 21 canol tref. Bydd yr awdur plant enwog Michael Rosen yn mynychu gydag awduron eraill yn cynwys Christian Foley, Shakespeare School Foundation, Finding the Will, Andrew Beattie, ABC of Opera, Marica Williams, Eloise Williams, Robin Price, Aneirin Karadog, Shakespeare a llawer mwy… pob un yn cynnig gweithdai i blant ysgol.

Mae’r digwyddiad yn cael ei noddi gan Ymddiriedolaeth Elusennol Stephens and George mewn partneriaeth gyda Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful a Chyngor Celfyddydau Cymru ac mae yn ei 7fed blwyddyn eleni.  Bydd yn cael ei agor am 10am yn  Eglwys Dewi Sant, Merthyr Tudful a bydd llawer o wynebau amlwg ym maes ieuenctid yn bresennol.

Ethos yr Ŵyl yw ysbrydoli pobl ifanc i ddarllen ac ysgrifennu a thema eleni yw  "Shakespeare: Ddoe, Heddiw ac Yfory".

Bydd yr Ŵyl yn cynnwys flash mobs, stondinau Tuduraidd, dawnswyr stilt, saethyddiaeth, hebogau, corau ysgol, dawnswyr, cerddoriaeth, anifeiliaid a reidiau ffair draddodiadol.

Am 9.30am bydd pared o dros 3500 o blant mewn gwisgoedd cymeriadau Shakespearaidd.

*       Bydd dros 100 stondin yn y dref yn gwerthu bwyd, llyfrau, anrhegion a llawer mwy.

*       Bydd dros 200 Gweithdy mewn 21 lleoliad ar hyd Merthyr Tudful.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch gyda Charity1@stephensandgeorge.co.uk
Rhif Ffôn: 01685 375331

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni