Ar-lein, Mae'n arbed amser

Mae Adran Iechyd yr Amgylchedd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn cydweithio â’r ASB er mwyn paratoi ar gyfer newidiadau cofnodi alergenau ar labelu.

  • Categorïau : Press Release
  • 12 Awst 2021
1_2

Ar 1 Hydref 2021, bydd y gyfraith ar gyfer labelu alergenau pecynnau bwyd sydd wedi eu pecynnu’n barod ar gyfer gwerthiant uniongyrchol yn newid. Golyga hyn y bydd rhaid i unrhyw fusnes bwyd sydd yn gwerthu bwydydd sydd wedi eu pecynnu’n barod ar gyfer gwerthiant uniongyrchol gynnwys cynhwysion llawn y cynnyrch ar y label gan dynnu sylw at y cynhwysion alergenaidd ar y rhestr honno.

Mae’r ddeddf hefyd yn cael ei hadnabod fel ‘Deddf Natasha,’ a daw’r newidiadau yn sgil marwolaeth Natasha Ednan-Laperouse wedi adwaith alergaidd a achoswyd gan baguette a becynnwyd yn barod, nad oedd ar y pryd yn rhestru’r alergenau.

Gall bwydydd sydd wedi eu pecynnu’n barod ar gyfer gwerthiant uniongyrchol gynnwys saladau a brechdanau y mae cwsmeriaid yn eu dewis eu hunain yn ogystal â bwydydd sydd wedi eu pecynnu’n barod y tu ôl i’r cownter a rhai cynnyrch a werthir mewn lleoliadau bwyd symudol neu dros dro.


Mae Sushma Acharya, Pennaeth Polisi a Strategaeth Gorsensitifrwydd Bwyd yr Asiantaeth Safonau Bwyd wedi croesawu cymorth ychwanegol i fusnesau a dywed:

“Er mwyn cynorthwyo busnesau bwyd mae’r ASB wedi lansio Hyb Bwydydd sydd wedi eu pecynnu'n Barod ac mae’n cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol o ran canllawiau labelu newydd ar gyfer bwydydd a’r sector. Mae’r canllawiau ar gyfer siopau bara, cig, prydau parod, gwerthwyr symudol, tai bwyta, caffis, tafarndai ac ysgolion yn rhoi gwybodaeth ymarferol ar fwydydd sydd wedi eu pecynnu’n barod a sut allai’r newidiadau hyn effeithio ar fusnesau bwyd.

Dywedodd Mrs. Susan Gow, Rheolwr Iechyd yr Amgylchedd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful:

“Gyda llai na 3 mis i fynd, rydym yn cydweithio â’r ASB ac yn annog busnesau bwyd sydd ar hyn o bryd yn gwerthu bwydydd sydd wedi eu pecynnu’n barod i ymweld â’r hyb pecynnu bwyd ar wefan yr ASB er mwyn cael rhagor o wybodaeth. Mae’n bwysig fod busnesau’n gwneud defnydd llawn o’r wybodaeth sydd ar gael cyn 1 Hydref.”

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni