Ar-lein, Mae'n arbed amser

Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn Arddangos Prosiect Solar PV yn Ysgol Uwchradd Afon Taf

  • Categorïau : Press Release
  • 12 Rhag 2024
AT

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful (CBSMT) yn falch o gyhoeddi bod aráe paneli solar 200kWp wedi cael eu gosod yn llwyddiannus yn Ysgol Uwchradd Afon Taf, gan nodi cam sylweddol tuag at nod uchelgeisiol y Cyngor o fod yn garbon niwtral. Mae'r gosodiad, sy'n cynnwys 500 o baneli solar wedi'u gwasgaru ar draws tri to gwastad yn dangos ymrwymiad yr ysgol a'r Cyngor i leihau eu hôl troed carbon a chreu dyfodol cynaliadwy.

Mae'r prosiect hwn yn cynrychioli cydweithio rhwng CBSMT, Ysgol Uwchradd Afon Taf, a H Factor, menter nid-er-elw a sefydlwyd yn 2016. Darparwyd cyllid ar gyfer y fenter gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO) a'i chenhadaeth yw meithrin prosiectau arloesol trwy grantiau ac arfarniadau. Daeth astudiaeth dichonoldeb drylwyr i'r casgliad y byddai Solar PV (ffotofoltäig) yn cyflawni'r gostyngiadau carbon uchaf ac arbedion cost mewn perthynas â'r buddsoddiad cyfalaf.

Dyfarnwyd y prosiect PV solar i Madola Energy a sicrhaodd ei harbenigedd leoliad delfrydol y paneli solar i wneud y mwyaf o’r amlygiad solar. Mae eisoes yn esgor ar ganlyniadau cadarnhaol i'r ysgol a'r gymuned leol:

  • Lleihau Carbon: Mae'r prosiect yn hanfodol er mwyn leihau allyriadau carbon cyffredinol CBSMT asc yn cynorthwyo i gyflawni targedau Sero Net Llywodraeth Cymru erbyn 2030.
  • Gwerth Addysgol: Mae'r aráe paneli solar yn darparu adnodd addysgol amhrisiadwy i fyfyrwyr ddysgu am ynni adnewyddadwy ac atebion hinsawdd a meithrin ymwybyddiaeth ac ymgysylltiad â materion cynaliadwyedd.
  • Arbedion Ariannol: Bydd arbedion o'r prosiect o fudd uniongyrchol i'r ysgol ac yn cael eu hailfuddsoddi i gefnogi mentrau yn y dyfodol.

Dywedodd Iain Goldsworthy, Peiriannydd Ynni CBSMT:
"Mae lleihau ein heffaith ar yr amgylchedd yn uchel ar agenda'r Cyngor, felly rydym yn falch iawn o gwblhau'r prosiect hwn. Bydd gosod yr aráe 200kW yn caniatáu i'r ysgol gael ei phweru gan ynni adnewyddadwy glân gan leihau’r effaith ar yr amgylchedd. Mae'r prosiect hefyd yn gymorth i CBSMT  leihau ei allyriadau carbon cyffredinol sy'n ein helpu i weithio tuag at dargedau Llywodraeth Cymru o Sero-Net erbyn 2030. Ochr yn ochr â'r manteision amgylcheddol, bydd y gosodiad solar yn cael ei ddefnyddio fel adnodd addysgol i fyfyrwyr ddysgu am ynni adnewyddadwy ac atebion i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd."

Dywedodd y Cynghorydd Gareth Lewis, Aelod Cabinet dros Addysg:
 "Mae'r prosiect hwn yn enghraifft wych o sut allwn weithio gyda'n gilydd i greu dyfodol gwyrddach, gydag arbediad carbon trawiadol o 2234 tunnell ac arbed costau dros 25 mlynedd o dros £1.6 miliwn. Nid yn unig y mae'n help i leihau allyriadau carbon, ond mae hefyd yn darparu adnodd addysgol unigryw i fyfyrwyr ddeall pwysigrwydd ynni adnewyddadwy. Rydym yn falch ein bod wedi cwblhau'r prosiect hwn a byddwn yn parhau i weithio tuag at ein nod carbon-niwtral."

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni