Ar-lein, Mae'n arbed amser

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn cefnogi’r ymgyrch gwych i helpu Cymru fod y genedl ailgylchu orau yn ystod Wythnos Ailgylchu eleni

  • Categorïau : Press Release
  • 20 Medi 2021
3rd in the world

Mae Cymru eisoes yn drydedd genedl orau’r byd am ailgylchu, ac mae’r Ymgyrch Gwych i’n cael i rif 1 yn parhau ar gyfer Wythnos Ailgylchu 2021 rhwng 20 a 26 Medi.

Mae ailgylchu’n chwarae rôl allweddol mewn taclo newid hinsawdd, ac mae’n beth syml y gall pawb ei wneud i gael effaith go iawn.

Ailgylchu yw’r norm yng Nghymru erbyn hyn, ac mae mwy na 92% ohonom yn ailgylchu’n rheolaidd fel rhan o’n harferion dyddiol. Rydyn ni’n ailgylchu crafion ffrwythau a llysiau, plisg wyau, bagiau te a gweddillion oddi ar ein platiau yn ein cadis bwyd; rydyn ni’n ailgylchu o bob ystafell yn cynnwys yr ystafell molchi a’r ystafell wely, ac yn ailgylchu eitemau llai amlwg, fel erosolau gwag.

Fodd bynnag, mae bron i’n hanner ni yn dal i beidio ailgylchu popeth y gallwn, felly os rydyn ni am helpu Cymru i gyrraedd y brig, mae angen inni fynd gam ymhellach ac ailgylchu mwy fyth. Fel mae Y Cynghorydd David Hughes, Aelod Cabinet dros gwasanaethau cymdogaeth yn egluro:

“Dylem fod yn falch o’n hymdrechion ailgylchu, ond mae mwy y gallwn ei wneud o hyd. Gwyddom fod ein cwsmeriaid yn malio am warchod yr amgylchedd a’u bod eisiau gwneud popeth y gallant i wneud Cymru’n lanach ac yn wyrddach. Gyda’n gilydd, gallwn helpu i gael Cymru i rif un a gwarchod y blaned drwy ailgylchu mwy o’r pethau cywir, bob tro.”

I ddysgu am yr ymgyrch gwych, ewch i www.cymruynailgylchu.org.uk, cadwch lygad am weithgareddau’r ymgyrch ar sianeli Cymru yn Ailgylchu ar y cyfryngau cymdeithasol, neu ymunwch â’r sgwrs gan ddefnyddio #WythnosAilgylchu a #ByddWychAilgylcha.

Cynghorion gwych i gael Cymru i rif un

  • Ailgylchu ein gwastraff bwyd yw un o’r ffyrdd hawsaf i roi hwb fawr i’n cyfradd ailgylchu. Rhowch unrhyw wastraff bwyd, pa bynnag mor fach yw’r tamaid, yn eich cadi gwastraff bwyd i sicrhau y caiff ei gasglu bob wythnos.
  • Nid yw ailgylchu’n darfod ar drothwy’r gegin; cofiwch ailgylchu o ystafelloedd eraill hefyd. Fe fuasech chi’n rhyfeddu faint o wastraff o’r ystafell molchi, fel poteli siampŵ, cyflyrydd gwallt, sebon dwylo a gel cawod gwag y gallwch eu hailgylchu.
  • Mae’r rhan fwyaf o bobl yn gwybod fod modd ailgylchu poteli dŵr, caniau, a phapur a chardfwrdd, ond cofiwch y gallwch ailgylchu eitemau mwy anarferol fel erosolau gwag hefyd. Ac os nad ydych chi’n siŵr beth y gallwch ac na allwch ei ailgylchu yn eich ardal leol, gallwch fwrw golwg ar y Lleolydd Ailgylchu gan Cymru yn Ailgylchu.
  • Gwasgwch eich caniau, potiau a thybiau i arbed lle yn eich bag, bin, bocs neu gadi ailgylchu. Cyn eu hailgylchu, rhowch rinsiad sydyn iddyn nhw pan fyddwch chi’n golchi’r llestri.
  • Os yw Cymru am gyrraedd rhif un, rhaid inni oll chwarae ein rhan. Mae hyn yn golygu rhannu’r Ymgyrch Gwych ar y cyfryngau cymdeithasol drwy rannu eich lluniau a’ch syniadau ailgylchu gan ddefnyddio #ByddWychAilgylcha ac #WythnosAilgylchu.

I ddarganfod beth sy’n digwydd i’ch ailgylchu ac i ble mae’n mynd, gallwch fynd draw i wefan Fy Ailgylchu Cymru, sy’n cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol iawn.

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni