Ar-lein, Mae'n arbed amser
Mae Merthyr Tudful wedi derbyn y nifer uchaf erioed o Faneri Gwyrdd ar gyfer parciau a gerddi a reolir gan y Cyngor a'r gymuned
- Categorïau : Press Release
- 16 Gor 2024
Cyfanswm o 20 o fannau gwyrdd – gan gynnwys y tri pharc canlynol Parc Cyfarthfa, Parc Taf Bargoed, Parc Tre Tomos a Mynwent Aber-fan yn ennill y wobr lawn, ynghyd ag 16 o brosiectau cymunedol sydd wedi derbyn neu gadw achrediad mawreddog Cadwch Gymru'n Daclus.
Mae rhestr lawn o enillwyr gwobrau cymunedol buddugol i'w gweld isod;
- Gwarchodfa Natur Cilsanws
- Canolfan Gymunedol Dowlais
- Ysgol Fabanod Dowlais a'r Ardd Gymunedol
- Gardd Natur Edward a Trefor
- Gardd Gymunedol Prosiect Dynion y Gurnos
- Gardd Gymunedol Bythynod Hafod
- Gardd Gwenyn Merthyr Nats
- Gardd Stryd y Farchnad
- Gardd Natur Gymunedol Muriel a Blanche
- Parc Penydarren
- Pwll Pen-y-wern
- Parc Pitwoods
- Pentref a Pharc Pontsticill
- Gardd Natur Gymunedol yr Hafod
- Hyb Cymunedol Twynyrodyn
- Taith Gerdded y Coetir
Bellach yn ei thrydydd degawd, mae gwobr Y Faner Werdd yn cydnabod parciau a mannau gwyrdd sydd yn cael eu rheoli’n dda, mewn 20 o wledydd ar draws y byd.
Yng Nghymru, mae’r cynllun gwobrwyo yn cael ei redeg gan Cadwch Gymru’n Daclus. Dywedodd Lucy Prisk, Cydlynydd y Faner Werdd i Cadwch Gymru’n Daclus: “Rydym wrth ein bodd i weld bod 291 o fannau gwyrdd yng Nghymru wedi cyflawni statws blaenllaw y Faner Werdd, sydd yn dangos ymroddiad a gwaith caled cannoedd o staff a gwirfoddolwyr.
“Mae mannau gwyrdd o ansawdd yn chwarae rhan hanfodol yn lles corfforol a meddyliol pobl ledled Cymru, ac mae cael eich cydnabod gyda’r gorau yn y byd yn gyflawniad mawr - Llongyfarchiadau!”
Dywedodd y Cynghorydd David Hughes, Aelod Portffolio dros Wasanaethau Cymdogaeth:
"Mae Merthyr Tudful yn mynd o nerth i nerth o ran Gwobrau'r Faner Werdd, flwyddyn ar ôl blwyddyn, ac rydym yn hynod falch.
"Rwyf wrth fy modd bod parciau'r Cyngor a Mynwent Aber-fan yn ennill gwobrau’n gyson, sy'n ganlyniad i'r gwaith caled a wnaed i'w cynnal gan Adran y Parciau.
"Mae gennym hefyd nifer cynyddol o grwpiau cymunedol a gwirfoddolwyr sy'n rhoi o'u hamser i gynnal ein mannau gwyrdd lleol er budd ein trigolion - cymaint o ddiolch iddynt hwy hefyd."
Mae rhestr lawn o enillwyr y gwobrau i'w gweld ar wefan Cadwch Gymru'n Daclus Cymru yn chwifio mwy o Faneri Gwyrdd Cymunedol nag unrhyw wlad arall ar draws y byd - Keep Wales Tidy