Ar-lein, Mae'n arbed amser
Merthyr yn cyrraedd y targed ailgylchu am yr wythfed flwyddyn yn olynol
- Categorïau : Press Release
- 07 Rhag 2023

Fe wnaeth preswylwyr Merthyr Tudful ailgylchu, compostio neu ailddefnyddio 64.4% o wastraff yn y flwyddyn ddiwethaf – gan ragori ar darged Llywodraeth Cymru (LlC) o 64%!
Er i ni leihau faint o wastraff a anfonwyd i Ynni o Wastraff (EfW) y llynedd, casglwyd llai o ddeunyddiau ailgylchadwy, felly mae'n rhaid i ni i gyd wella faint o'n gwastraff yr ydym yn ei ailgylchu - yn enwedig ein gwastraff bwyd.
Dywedodd y Cynghorydd David Hughes, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaeth: “Hoffem ddiolch i’n preswylwyr am eu hymrwymiad i ailgylchu.
“Ein targed ar gyfer y flwyddyn i ddod (2024/25) yw 70%, felly er ein bod yn dathlu ein cyflawniad hyd yma, rydym hefyd yn apelio ar drigolion i’n cefnogi i gyrraedd y nod uchelgeisiol hwn y mae Llywodraeth Cymru wedi’i osod inni.
“Mae gennym ni lawer o waith i’w wneud i gyrraedd 70%, felly parhewch i wahanu a chyflwyno eich deunyddiau ailgylchu i’w casglu ar y cynlluniau ailgylchu ymyl y ffordd wythnosol, a gofynnwch am ein cefnogaeth os oes ei angen arnoch.
“Trwy gydol ein holl waith rydym yn parhau i weithio tuag at y targed eithaf o ddod yn dref ddiwastraff erbyn 2050.”
Os nad ydych yn cymryd rhan yn y gwasanaethau ailgylchu ymyl y ffordd ar hyn o bryd, cysylltwch â ni am gyngor:
01685 725000
wasteservices@merthyr.gov.uk