Ar-lein, Mae'n arbed amser

Cwblhau dyletswydd swyddogol olaf y Maer

  • Categorïau : Press Release , Council
  • 19 Mai 2021
Howard Barret - final official event

Ar 15 Mai 2021 roedd Ei Deilyngdod y Maer, y Cynghorydd Howard Barret, yn bresennol yn ei ddigwyddiad swyddogol olaf fel Prif Ddinesydd y Fwrdeistref Sirol pan osododd dorch wrth gofeb rhyfel Canol y Dref yn ystod digwyddiad dathlu 100 mlynedd Y Lleng Brydeinig Frenhinol.

Cyfnod Howard fel Maer Merthyr Tudful yw’r hiraf erioed, gan ei fod wedi gwasanaethu yn ei swydd o 15 Mai 2019 tan 19 Mai 2021; y tro cyntaf yn hanes y Sir y bu Maer yn gwasanaethu dau dymor, un ar ôl y llall. Wrth gwrs, nid o fwriad oedd hyn, ac roedd y Dirprwy Faer y Cynghorydd Malcolm Colbran i fod i ddyfod yn Brif Ddinesydd yn 2020, fodd bynnag roedd cynlluniau eraill gan Covid-19.

Cynrychiolodd Howard bobl Merthyr Tudful mewn nifer o ddigwyddiadau yn ystod y cyfnod, gan gynnwys ymweliadau Brenhinol, digwyddiadau gyda’r lluoedd arfog a seremonïau swyddogol. Gwnaeth e hefyd gwrdd â llawer o bobl ifanc lleol, gan gynnwys disgyblion o ysgolion Merthyr Tudful, gan roi’n cyfle iddynt ofyn cwestiynau am bynciau yr oeddent yn teimlo oedd yn bwysig iddyn nhw – gan hyd yn oed roi’r cyfle iddynt wisgo cadwyn swyddogol y Maer!

Mae bod yn Gadeirydd ar gyfarfodydd y Cyngor Llawn yn rhan o ddyletswyddau swyddogol y Maer, ac ym mis Hydref 2020, Howard oedd y Maer cyntaf erioed i gadeirio cyfarfod y Cyngor Llawn ar Microsoft Teams – rhywbeth na fydd yn ei anghofio’n fuan!  

Dywedodd Howard am ei gyfnod yn y swydd: “Mae cynrychioli pobl Merthyr Tudful mewn llawer o ddigwyddiadau ac achlysuron amrywiol wedi bod yn brofiad gwych. Uchafbwynt personol i mi oedd bod yn bresennol yng Ngarddwest y Frenhines ym Mhalas Buckingham yn 2019.

“Rwyf wirioneddol wedi mwynhau cwrdd â chymaint o bobl o bob cefndir ac mae’n rhywbeth y byddaf yn ei gofio am amser hir i ddod.

“Bu’r flwyddyn ddiwethaf yn flwyddyn llawn heriau a newidiadau, fodd bynnag, fy mraint oedd estyn fy amser yn fy swydd fel Maer cyn trosglwyddo’r awenau i’r Cynghorydd Malcolm Colbran heno ’ma. Dymunaf y gorau i Malcolm yn ystod ei gyfnod yn y swydd.”  

Cododd Howard bron i £35,000 dros y ddwy flynedd ddiwethaf ar gyfer ei elusen ddewisol, sef Cangen Merthyr Tudful o Ofal Canser Macmillan.

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni