Ar-lein, Mae'n arbed amser

Merthyr Tudful wedi ei enwi fel un o fannau gwyrdd gorau’r wlad

  • Categorïau : Press Release
  • 14 Hyd 2021
Cyfarthfa-Park.jpg

Mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi datgelu enillwyr Gwobr y Faner Werdd eleni – marc rhyngwladol o barc neu fan gwyrdd o ansawdd.

Mae Merthyr Tudful wedi cael Gwobr y Faner Werdd i gydnabod cyfranogiad ymroddedig gan ei wirfoddolwyr, safonau amgylcheddol uchel ac ymrwymiad i gyflawni man gwyrdd o ansawdd gwych.

Mae hwn yn gyflawniad gwych I Gyngor Merthyr Tudful a’r holl wirfoddolwyr sy’n gweithio’n ddiflino I gynnal a chadw’r lleoedd hyfryd hyn.

Dywedodd y Cynghorydd David Hughes, aelod portffolio gwasanaethau cymdogaeth: "Rwy'n falch iawn bod tri parc a un mynwent reolir gan y Cyngor wedi cael eu hanrhydeddu â'r gwobrau hyn. 

"Gydag ychwanegant canolfan goedwig Garwnant, sy'n cael ei rheoli gan Adnoddau Naturiol Cymru, mae Merthyr Tudfil yn ymfalchïo mewn pum Gwobr baner werdd; rhywbeth y gallwn ni i gyd fod yn falch ohono.

"Mae yna hefyd 11 o wobrau cymunedol eleni ar gyfer Merthyr Tudful, na fyddai pob un ohonynt wedi bod yn bosibl heb waith caled ac ymroddiad llawer o'n grwpiau cymunedol a'n gwirfoddolwyr. Hoffwn longyfarch a diolch i bawb sy'n ymwneud â wedi chyflawni hyn." 

Dyfarnwyd 11 gwobr ir canlynol: Gwarchodfa Natur Cilsanws, Canolfan Gymunedol Dowlais, Ysgol Babanod a Graddedigion Cymunedol Dowlais, Gardd Gymunedol Prosiect Dynion Gurnos, gardd natur Gymunedol Muriel a Blanche, parc pyllau a pyllau coed Penywern Top, Parc Pontsticill, Pentref Pontsticill, Gardd natur Cymunedol y Hafod, Woodland Walk.

Dywedodd y Cynghorydd Declan Sammon, Dirprwy Faer a Chadeirydd Pwyllgor Gwasanaethau Cymdogaeth, Cynllunio a Chraffu Cefn Gwlad: “Maer pandemig wedi dangos pa mor bwysig yw mannau gwyrdd i’n cymunedau. 

"Mae’n wych gweld cymaint o grwpiau lleol bach ledled Merthyr Tudful yn gwneud eu gorau i wella eu hardaloedd lleol ac yn cael eu gwobrwyo am eu gwaith caled trwy ennill Faner Werdd. Mae'r safleoedd hyn o fudd i’r gymuned gyfan, nid yn unig fel le i fwynhau ac ymlacio ond maent hefyd yn helpu gyda lles iechyd corfforol a meddylio ein gwirfoddolwyr”.

Mae 145 o fannau gwyrdd a reolir yn gymunedol ar draws y wlad wedi bodloni’r safonau uchel sydd eu hangen i gael Gwobr Gymunedol y Faner Werdd.  Mae hyn yn golygu bod Cymru’n dal i feddu ar draean o safleoedd Gwobr Gymunedol y Faner Werdd yn y DU.

Cyflwynir rhaglen Gwobr y Faner Werdd yng Nghymru gan yr elusen amgylcheddol Cadwch Gymru’n Daclus, gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru. Gwirfoddolodd arbenigwyr mannau gwyrdd annibynnol eu hamser ar ddechrau’r hydref i feirniadu safleoedd ymgeiswyr yn erbyn wyth o feini prawf llym, yn cynnwys bioamrywiaeth, glendid, rheolaeth amgylcheddol, a chyfranogiad cymunedol.

Dywedodd Julie James, Gweinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru: “Mae mannau gwyrdd yn hanfodol i iechyd meddwl a chorfforol a trwy gydol y pandemig, rydym wedi gweld pa mor bwysig mae’r mannau hyn wedi bod i gymunedau lleol.  

“Mae gan Gymru dros draean safleoedd cymunedol Baner Werdd y DU o hyd ac mae’n rhagorol gweld mwy o fannau yng Nghymru yn derbyn Gwobr y Faner Werdd a Gwobr Cymunedol y Faner Werdd.   

“Mae’r tirweddau hyn yn chwarae rhan hanfodol yn cyflwyno ecosystemau cyfoethog a chymunedau bywiog a chydnerth, ac rwyf yn llongyfarch pob safle am ddarparu cyfleusterau a digwyddiadau rhagorol, drwy’r flwyddyn ar gyfer pobl yng Nghymru.”

Dywedodd Lucy Prisk, Cydlynydd y Faner Werdd yn Cadwch Gymru’n Daclus: “Dangosodd y pandemig i ni pa mor bwysig yw parciau a mannau gwyrdd o ansawdd da i’n cymunedau.  Gyda mwy o ymwelwyr nag erioed yn mwynhau ein mannau gwyrdd, hoffwn longyfarch gwaith caled staff a gwirfoddolwyr sydd wedi cynnal safonau rhagorol yn y safleoedd hyn.”

Mae rhestr lawn o enillwyr y wobr ar gael ar wefan Cadwch Gymru’n Daclus www.keepwalestidy.cymru

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni