Ar-lein, Mae'n arbed amser
Merthyr Tudful wedi ei enwi ymysg y 10 uchaf fel lleoliad gwyliau Pasg 2022
- Categorïau : Press Release
- 08 Ebr 2022

Mae sector dwristiaeth Merthyr Tudful yn ffynnu ar ôl y pandemig ac wedi ei enwi ymysg y 10 uchaf fel lleoliad gwyliau'r Pasg hwn yn ôl Airbnb.
Mae’r safle rhentu gwyliau wedi enwi ein Bwrdeistref Sirol gyda Prestatyn a Chaerfyrddin fel y lleoliadau gwyliau mwyaf poblogaidd.
Rhestrir Merthyr Tudful ar rif wyth gan Airbnb, sydd hefyd yn cynnwys Aintree ar Lannau Merswy, Balloch yng Ngorllewin Swydd Dunbarton, yr Alban a Chipping Norton yn Swydd Rydychen.
Mae darparwyr llety lleol wedi diolch i’r Cyngor Bwrdeistref Sirol am y gefnogaeth maent wedi ei dderbyn gyda chyllid grant Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau eu bod yn goroesi'r misoedd o gyfyngiadau Coronafeirws.
Agorodd safle glampio The Roost Merthyr Tudful ym mis Hydref 2019, fel lleoliad ar gyfer cerddwyr, seiclwyr a’r rhai yn caru’r bywyd awyr agored. Mae’r llety’n llawn dros y Pasg gyda gwesteion yn teithio o’r DU, Massachusetts yn yr UDA a’r Almaen.
“Mae’n ymwelwyr tramor yn sicr wedi cynyddu” meddai'r cydberchennog Kath Morgans. “ Yn dilyn cwpl o flynyddoedd heriol, llwyddom i oroesi diolch i gymorth y Cyngor, mae’n wych gweld cymaint o bobl yn dewis ymweld â Merthyr Tudful a Bannau Brycheiniog am y gweithgareddau sydd ar gael.
“Y prif atyniadau yn bendant yw BikePark Wales a cherdded yn y Bannau, felly wrth gynllunio'r Roost, fe wnaethom gynnig cyfleusterau ar gyfer cerddwyr a seiclwyr. Nawr mae gwesteion yn dod yn ôl dro ar ôl tro, sydd yn wych i ni ac I Ferthyr Tudful.”
Mae’r Butchers Arms ger Cronfa Pontsticill yn far a bwyty ac yn cynnig lle i 18 aros, ac yn darparu gweithgareddau awyr agored. Gyda chefnogaeth y Cyngor, derbyniodd yr eiddo Grant Covid-19 Llywodraeth Cymru ar gyfer offer awyr agored i ddarparu lle i dros 100 o bobl eistedd tu allan.
“Ers y pandemig a gyda chefnogaeth Cyngor Bwrdeistref Merthyr Tudful, mae’r nifer sy’n galw yma wedi cynyddu yn sylweddol, gydag atyniadau'r Bannau Brycheiniog a phobl eisiau gweithgareddau anturus fel canŵio, gwyllt grefftau, dringo, abseilio, beicio mynydd a saethyddiaeth - gweithgareddau yr ydym ni yn eu cynnig,” meddai’r perchennog Huw Carey.
Ychwanegodd,“Rydym yn gyffrous iawn am y dyfodol, gyda gweithgareddau a’r llety wedi eu harchebu trwy’r flwyddyn.
“Os oes unrhyw beth positif i’w gymryd o’r pandemig, un yw bod pobl yn sylweddoli beth sydd gennym ar stepen y drws. Diolch I’r Awdurdod Lleol sydd yn barod am y tyfiant hwn mewn twristiaeth, rydym yn gyffrous am ddyfodol ein busnes.”
Cyn y pandemig, dangosodd ymchwil ar ddiwedd 2019 bod gan sector dwristiaeth Merthyr Tudful effaith economic o fwy na £103 miliwn - gyda mwy na 1.7 miliwn o ymwelwyr dydd a dros 200,000 yn aros dros nos. O 2018- 2019, roedd cynnydd o 21% mewn ymwelwyr yn aros a 51% o gynnydd mewn ymwelwyr dydd.
Mewn adroddiad diweddar a baratowyd gan Airdna, sydd yn dadansoddi data tymor byr, nodwyd yn ogystal â’r 69 gwesty, Gwely a Brecwast, safleoedd gwersylla a gwestai hunan arlwyo a restrir ar wefan Visit Merthyr, roedd hefyd 94 eiddo hunan cynhaliol lleol hefyd.
Mae hyn yn cynrychioli cynnydd o 35% mewn eiddo hunan cynhaliol ers dechrau’r pandemig ym mis Mawrth 2020. Gyda’r mwyafrif o restrau Airbnb wedi eu llenwi trwy’r haf, mae’n dangos yn glir boblogrwydd ‘gwyliau gartref’.
Nododd Chris Long, Pennaeth Adnewyddu a Thai a Thrawsnewid y Cyngor: “Mae tyfiant amlwg yn y sector llety ym Merthyr Tudful, gyda mwy a mwy o leoliadau yn ymddangos ar ein rhestr farchnata yn gyson.
“Y mis yma yn unig, mae ein cydlynydd Twristiaeth wedi cefnogi gyda graddio, marchnata, datblygu a chwilio am bosibiliadau cyllido ar gyfer pum darparwr llety: Gwaelodygarth Lodge, Bedrock, Nearly Wild Camping, Gwesty’r Tiger, a Hafod Tanglwys - gydag ymholiadau eraill gan sawl llety arall.
“Mae hefyd sawl datblygiad cyffrous arall, gyda gwesty bach moethus yng nghanol y dref yn cynnwys Howfields, ac adnewyddiad Castle House ar Stryd y Clastir fel bwyty, bar a llety.
“Rydym wrth ein bodd yn gweld y cynnydd yma mewn ymwelwyr i’n bwrdeistref sirol ffantastig. Mae’r diddordeb hwn yn rhoi elw i’r economi leol gan alluogi'r gymuned i ffynnu.”